Adborth a chwynion
Pryderon
Os oes gennych gŵyn neu os ydych yn poeni am y gwasanaeth rydych wedi ei dderbyn gan y meddygon neu’r staff yn y feddygfa, gadewch i ni wybod. Ni allwn dderbyn cwynion am wasanaethau meddygol arall GIG: dylid mynd â’r cwynion hyn yn uniongyrchol at y gwasanaethau hyn.
Rydym yn croesawu sylwadau adeiladol ac awgrymiadau am ein gwasanaethau.
Byddwn yn gwneud ein gorau drwy’r amser, ond serch hynny weithiau gall pethau fynd o’u lle, a gallwch gwyno neu adael i ni wybod am bryder neu awgrymu gwelliannau.
Sut i wneud cwyn
Gobeithiwn y gallwn ddatrys y rhan fwyaf o gwynion wrth iddynt ddod i’r amlwg. Os na allwn ddatrys y broblem a’ch bod yn dymuno gwneud cwyn ffurfiol, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosib oherwydd bydd hyn o gymorth i ni ddarganfod beth ddigwyddodd yn sydyn ac yn rhwydd.
Ni fydd codi cwyn yn cael effaith negyddol ar safon y gofal byddwch yn ei dderbyn gennym.
Os dymunwch wneud cwyn ffoniwch neu ysgrifennwch at Bethan Williams, ein rheolwraig. Petai’n well gennych drafod eich pryderon wyneb yn wyneb, gallwn drefnu hyn.
Bydd yr hawl i weld nodiadau meddygol a gwybodaeth bersonol wedi’i gyfyngu i’r hyn sy’n berthnasol i’r ymchwiliad. Fe’u datgelir i’r bobl sydd angen eu gweld er mwyn ymchwilio i’ch cwyn yn unig.
Os na allwch wneud y gŵyn eich hun, bydd angen eich caniatâd ysgrifenedig er mwyn trafod gyda rhywun arall. Gellir hefyd wneud cwyn ar ran person sydd wedi marw.
Gallwch hefyd godi cwyn gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr:
Tîm Pryderon
Ysbyty Gwynedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2PW
Ffôn: 01248 384194
E bost: ConcernsTeam.bcu@wales.nhs.uk
Gallwch hefyd gysylltu gyda’r Cyngor Iechyd Cymuned am fwy o gymorth:
Cyngor Iechyd Cymuned
Uned 11 Llys Castanwydden
Parc Menai
Bangor
Gwynedd
LL57 4FH
Ffôn: 01248 679284
E bost: ConcernsTeam.bcu@wales.nhs.uk.
Beth fyddwn ni’n ei wneud?
Byddwn yn cydnabod eich cwyn o fewn dau ddiwrnod gwaith a byddwn yn ceisio ymchwilio i’r gŵyn o fewn 10 diwrnod o’r adeg y’i codwyd. Byddwn yna’n rhoi eglurhad neu’n cyfarfod â chi i drafod y mater. Pan ydym yn ymchwilio i gŵyn rydym yn anelu i:
Ddarganfod beth ddigwyddodd a beth aeth o’i le,
Ei gwneud hin bosib i chi drafod y broblem gyda’r bobl berthnasol,
Sicrhau eich bod yn derbyn ymddiheuriad os yw hyn yn addas,
Ceisio darganfod ffordd i osgoi’r broblem yn y dyfodol.
Beth os ydych yn parhau i fod yn anfodlon?
Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon, gellir mynd â’r mater at Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
0845 601 0987 neu drwy e bost ask@ombudsman-
Neu drwy ysgrifennu at:
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ
Eu gwefan yw www.ombudsman-