Polisi Ymweliadau Cartref
Cedwir ymweliadau cartref ar gyfer cleifion lle mae hynny’n glinigol angenrheidiol yn unig. Y Meddyg Teulu (GP) fydd yn penderfynu a oes angen ymweliad cartref yn seiliedig ar gyflwr clinigol y claf. Cedwir ymweliadau cartref ar gyfer cleifion sy’n wirioneddol gaeth i’r tŷ a chleifion sy’n derfynnol wael.
Gall gweithiwr gofal iechyd proffesiynol o’r feddygfa gynnal ymweliad cartref os credir bod cyflwr y claf:
a) Yn eu hatal rhag teithio i’r feddygfa, neu
b) Yn gallu gwaethygu o ganlyniad i deithio i’r feddygfa
Nid ydym yn ystyried y canlynol yn rhesymau dilys dros ymweliad cartref:
-
Diffyg trafnidiaeth
-
Sefyllfa ariannol y claf
-
Problemau gofal plant
-
Tywydd gwael
-
Unrhyw sefyllfa arall a ystyrir yn amhriodol gan y clinigwr
Lle bo’n briodol, byddwn yn ystyried ffyrdd amgen o asesu’r claf, megis ymgynghoriad dros y ffôn, neu eich cyfeirio at wasanaethau eraill (er enghraifft, Tîm Nyrsio’r Ardal neu Wasanaethau Cymdeithasol).
Canllawiau (GMS Cymru)
Mae ein dull yn dilyn canllawiau GMS Cymru, sy’n nodi bod ymweliadau cartref o dan gytundeb y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS) yn bennaf ar gyfer cleifion sy’n gaeth i’r tŷ neu’n rhy wael i ddod i’r feddygfa.
Mae’r penderfyniad i gynnal ymweliad cartref yn nwylo’r GP, yn seiliedig ar angen clinigol y claf ac a oes angen archwiliad corfforol yn y cartref.
Yn gyffredinol, nid yw problemau trafnidiaeth na materion ymarferol eraill yn cael eu hystyried yn rheswm dilys dros ymweliad cartref.
Mae’r prif bwyntiau’n cynnwys:
-
Angen clinigol: Cedwir ymweliadau cartref ar gyfer cleifion y mae eu cyflwr meddygol yn golygu bod angen eu hasesu gartref.
-
Penderfyniad y GP: Y GP fydd yn penderfynu a oes angen ymweliad a pha mor frys yw hynny.
-
Nid er hwylustod: Nid yw ceisiadau oherwydd trafferthion trafnidiaeth, gofal plant, neu amgylchiadau ymarferol eraill fel arfer yn briodol.
-
Dewisiadau amgen: Os nad yw ymweliad cartref yn addas, gallwn gynnig opsiynau eraill megis dod i’r feddygfa, ymgynghoriad o bell (ffôn neu fideo), neu gyngor drwy NHS 111.
-
Gwell cyfleusterau yn y feddygfa: Lle bo modd, rydym yn ffafrio asesu cleifion yn y feddygfa gan fod gennym yr offer a’r gefnogaeth briodol i ddarparu’r gofal gorau.
Enghreifftiau o sefyllfaoedd lle gellir ystyried ymweliad cartref
-
Cleifion sy’n derfynnol wael
-
Cleifion sy’n gaeth i’r tŷ (heb allu gadael y cartref oherwydd salwch neu anabledd)
-
Cleifion â salwch difrifol neu wanychol nad ydynt yn gallu teithio