Iechyd meddwl

Parabl
Mae gwasanaeth Therapi Siarad Parabl yn rhoi cefnogaeth therapiwtig tymor byr i bobl sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi â sefyllfa boenus neu broblem iechyd meddwl cyffredin sy’n effeithio eu lles emosiynol.
Yn dilyn asesiad ffôn, os ydych yn gymwys i dderbyn triniaeth gan y gwasanaeth, gallwch gael cynnig:
- hunan help
- hunan help gydag arweiniad
- grwpiau therapiwtig
- therapi unigol
Gallwch hunan gyfeirio drwy ffonio 0300 777 2257 (oriau busnes), neu ebostio gofyn@parabl.org.
Rydym yn cynghori eich bod yn ymweld â’u gwefan cyn cysylltu er mwyn darganfod mwy am y gwasanaeth.

Cruse
Mae pawb yn ymdopi’n wahanol gyda profedigaethau, a does dim ffordd ‘gyffredin’ na ‘iawn’ i alaru. Mae Cruse yn elusen genedlaethol gyda canghennau lleol sy’n rhoi cyngor, gwybodaeth a chymorth i unrhywun sydd wedi cael profedigaeth (plant, pobl ifanc, ac oedolion), pryd bynnag a sut bynnag i digwyddodd y farwolaeth. Darperir y gwasanaeth gan wirfoddolwyr hyfforddedig, profiadol, yng nghartref y cleient. Mae’n gyfrinachol ac am ddim.
Cliciwch yma i fynd i’r wefan genedlaethol i gael mwy o wybodaeth, neu yma am wefan cangen Gogledd Cymru er mwyn hunan-gyfeirio.

Golau – Barnados
Mae ymarferwyr lles Golau yn cynnig gwasanaeth atal ac ymyrryd yn gynnar i blant a phobl ifanc rhwng 8 a 18 oed a’u teuluoedd.
Yn dilyn cyfarfodydd cychwynnol, byddant yn datblygu cynllun o sesiynau therapi a chymorth. Caiff hyn ei adolygu ar ôl 12 wythnos a chytunir ar strategaeth wrth symud ymlaen.
Byddwn yn gweithio gyda phob unigolyn i’w cefnogi gyda materion fel:
- dicter/ymddygiad ymosodol/ymddygiad anodd ei reoli
- gorbryder
- profedigaeth a cholled
- perthynas rhwng y plentyn/rhiant yn chwalu
- bwlio
- hwyliau isel
- hunan-barch isel
- hunan-niwed
- ynysu cymdeithasol
- straen.
Gallwch hunan-gyfeirio i’r gwasanaeth. Ciciwch isod i lwytho’r ffurflen er mwyn ei hargraffu a’i dychwelyd.