Adnoddau cymdeithasol

Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor
Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnig cefnogaeth i bobl anabl neu hŷn er mwyn hyrwyddo annibyniaeth a bodlonrwydd. Gallant roi gwybodaeth, cyngor, neu eich cyfeirio at wasanaethau eraill yn y gymuned. Lle mae angen, maent yn trefnu gwasanaethau gofal gymdeithasol.
Mae’r gwasanaethau yma’n cynnwys;
- Cartrefi preswyl
- Cartrefi nyrsio
- Llety preswyl annibynnol
- Llety seibiant (respite)
- Gofal yn y cartref
- Therapi galwedigaethol (trefnu offer, a weithiau gwelliannau yn y cartref)
I drefnu asesiad i chi neu rywun arall cliciwch yma.
Mewn argyfwng ffoniwch 01248 752752, neu 01248 353 551 tu allan i oriau gwaith.

Linc Cymunedol Môn
Mae Linc Cymunedol Môn yn cynnal gwasanaeth Prescreibio Cymdeithasol ar gyfer pobl dros 18 oed sy’n byw ar Ynys Môn. Gall y gwasanaeth eich helpu os ydych:
- Yn teimlo’n ynysig yn gymdeithasol
- Eisiau gwella eich iechyd corfforol
- Yn dioddef o ddiffyg hyder
- Angen dod o hyd i rywfaint o gefnogaeth ymarferol a gwybodaeth er mwyn gwella eich sefyllfa.
Bydd eu tîm o Gydlynwyr Asedau Lleol yn:
- Gweithio efo chi i adnabod gweithgareddau a gwasanaethau cymunedol yn eich ardal sy’n addas ar gyfer eich diddordebau
- Cynnig cefnogaeth i chi fynychu’r gweithgareddau a’r gwasanaethau yma
- Eich helpu i wella eich lles, hyder ac annibyniaeth.
Gallwch gyfeirio eich hun neu eraill drwy ddefnyddio’r teclyn hunan gyfeirio yma.
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma i fynd i’w gwefan.

Gofal a Chadw Môn
Mae Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn yn elusen sy’n anelu i alluogi pobl hŷn i fyw yn annibynnol mewn tai cynnes, diogel a hygyrch (accessible). Mae’r gwasanethau yn cynnwys cymorth i wella, trwsio neu addasu tai, ac ar gael i unigolion dros 60 neu drosodd, neu o unrhyw oed gyda anabledd. Rhaid codi am rai gwasanaethau yn dibynnu ar gymhwysedd.
Mae eu gwasanaethau’n cynnwys:
- Cymorth personol tra’n delio gyda gwaith adeiladu
- Bod yn gyswllt ar ran y cleient
- Cymorth i lenwi ffurflenni
- Cyfeirio at wasanaethau eraill
- Cyngor a gwybodaeth
- Cyngor ar grantiau ac opsiynau cyllido
- Cyngor ar wresogi ac ynni
- Gwirio budd-daliadau
- Rhaglen Addasiadau Brys: gwasanaeth sy’n cynnig addasiadau i bobl sy’n yr ysbyty yn disgwyl mynd adref, wedi gadael ysbyty yn ddiweddar, neu sydd mewn peryg o orfod mynd i ysbyty neu gartref.
Cliciwch yma i fynd i’w gwefan neu ffoniwch 01286 889360.