Logo gwirio iechyd

Gwirio iechyd

Nid yw’r gwasanaethau yma yn ran o’n gwaith GIG, felly byddwn yn codi ffi amdanynt. Cliciwch yma i weld rhestr o’n ffîoedd.

Gallwn wneud yr archwiliadau gwirio iechyd canlynol:

  • HGV/PSV
  • tacsi
  • mabwysiadu/maethu

Does dim angen gweld meddyg i wirio iechyd ar gyfer cais dryll/shotgun. Gallwn wneud hyn o’ch nodiadau iechyd.

Os ydych wedi cael prawf golwg eisioes, dewch â’r adroddiad gyda chi. Os ydych am i ni brofi eich golwg, cofiwch ddod â’ch sbectol.

Logo giwrio iechyd morwyr

Gwirio iechyd morwyr

Meddygon: Dr Dyfrig a Dr Marc

Ar hyn o bryd nid ydym yn gwneud archwiliadau gwirio iechyd morwyr oherwydd yr argyfwng COVID. Os yw eich ENG1 wedi dod i ben dylech siarad gyda’r Asiantaeth Forwrol ynghylch a’i ymestyn.

Rydym yn cynnig y gwasanaeth yma i’n cleifion ein hunain ac i gleifion sydd wedi cofrestru gyda meddygfeydd eraill. I drefnu archwiliad dylech ffonio’r feddygfa ac egluro eich bod angen apwyntiad. Bydd un o’r meddygon yn eich galw i drafod ac i drefnu apwyntiad. Nid oes rhestr aros hir gennym fel arfer, ond ni allwn addo eich gweld ar fyr rybudd felly rydym yn awgrymu eich bod yn gwneud trefniadau gyda digon o amser cyn i’ch ENG1 ddod i ben.