Atal cenhedlu
Mae’n meddygon i gyd yn gallu trafod a chynghori ar ddulliau atal cenhedlu. Gallwch hefyd fynd i glinic cymunedol yn Ysbyty Gwynedd.
Gallwch gael presgipsiwn ar gyfer:
- Y bilsen atal cenhedlu
- Pilsen progesterone yn unig
- Patsh atal-cenhedlu
Os hoffech wybod am eich dewisiadau yn gyntaf mae llawer iawn o adnoddau ar gael. Mae gwefan Sexwise yn un adnodd dibynadwy, hawdd i’w ddeall.
Yn ogystal â’r dulliau craidd uchod, gallwn hefyd gynnig gwasanaethau arbenigol.
Coil
Meddygon: Dr Katie, Dr Marc
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael coil gallwn wneud hyn yng Nghoed y Glyn. Gallwch gael coil copr, neu coil hormonau (Mirena neu Kyleena).
Cyfnod trwyddedig:
Copr – 5 mlynedd (rhai yn 10 mlynedd)
Mirena/Kyleena – 5 mlynedd
Implant
Meddygon: Dr Katie, Dr Jo
Gallwn hefyd osod yr ‘implant’ (Nexplanon).
Cyfnod trwyddedig: 3 mlynedd
Mae’r gwasanaeth yma hefyd ar gael i gleifion meddygfeydd eraill, gan bod cytundeb gennym gyda’r Bwrdd Iechyd.
I drafod ymhellach ac i drefnu apwyntiad i osod y coil neu’r implant, ffoniwch y feddygfa.