Safonau hygyrchedd
Rydym eisiau gwella’r ffordd y gallwch gael mynediad at wasanaethau drwy eich practis meddyg teulu.
Beth y gallwch chi ei ddisgwyl gennym ni:
- Y gofal cywir ar yr adeg gywir, yn seiliedig ar eich anghenion. Gall hyn olygu gweld gweithiwr iechyd proffesiynol mwy priodol heb orfod gweld eich meddyg teulu.
- Gwybodaeth ddwyieithog dros y ffôn am wasanaethau lleol a gwasanaethau brys.
- Gwybodaeth ynglŷn â sut i gael y cymorth a’r cyngor cywir.
- Ymateb cyflymach pan fyddwch yn ffonio eich practis.
- Systemau ffôn gwell fel nad oes angen ichi ffonio lawer gwaith.
- Amrywiaeth o opsiynau i gysylltu â’ch practis a threfnu apwyntiad.
- Byddwn yn cynllunio ein gwasanaethau, yn gwrando arnoch, ac yn sicrhau bod ein gwasanaethau’n bodloni eich anghenion.
