Brechiadau teithio
Os ydych am fynd dramor, byddwch angen brechiadau ychwanegol cyn ymweld â rhai gwledydd neu ardaloedd penodol. Gallwn drefnu’r rhan fwyaf o’r rhain yn y feddygfa.
Un eithriad yw brech y clwyf melyn (yellow fever), gan mai canolfannau arbenigol yn unig sy’n ei gynnig. Ewch i’r wefan yma i ddod o hyd i ganolfan.
Nid yw llawer o frechiadau ar gael ar y GIG, felly byddwn yn codi ffi amdanynt. Mae ein prisiau yn adlewyrchu rhai Masta Travel Health, sydd yn ddarparwr cenedlaethol. Cliciwch yma i weld y prisiau.
Er mwyn trafod ymhellach a threfnu’r brechiadau bydd un o’n nyrsys angen gwybodaeth gennych. Gallwch unai lenwi’r ffurflen ar-lein isod neu argraffu a llenwi’r ffurflen a’i gadael yn y feddygfa. Wedi i’r nyrs gael cyfle i adolygu’r wybodaeth byddant yn eich ffonio i drafod ymhellach a threfnu apwyntiad.
Mae rhai brechiadau yn cymryd amser i fod yn effeithiol, felly rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu gyda ni o leiaf 4-6 wythnos cyn teithio.
Mae ffurfleni cyswllt ein gwefan yn defnyddio ebost i gyfathrebu gwybodaeth. Cliciwch yma i ddarllen ein polisi ebost.