Nodyn ffitrwydd
Nid oes angen nodyn meddyg am lai na 7 diwrnod o salwch.
Dylech:
- Gysylltu gyda’ch cyflogwr ar ddiwrnod cyntaf eich salwch
- Mae’n debyg y byddant am i chi lenwi ffurflen hunan-ddatgan salwch
- Mae gan rai gyflogwyr ffurflen eu hunain. Os ddim, gallwch gael un o’n derbynfa, neu cliciwch ar y botwm isod i fynd i wefan y llywodraeth lle mae modd paratoi un eich hun
- Os yw eich salwch yn parhau tu hwnt i 7 diwrnod, cysylltwch gyda meddyg i drafod y salwch ac i gael nodyn meddyg.
Yn ôl y gyfraith, does dim hawl gan gyflogwyr i fynnu nodyn meddyg yn y 7 diwrnod cyntaf o salwch. Os bydd gofyn i ni roi nodyn cyn 7 diwrnod, byddwn yn ei ystyried yn nodyn preifat. Cliciwch yma i weld ein ffîoedd preifat.
Nid ydym yn rhoi nodiadau ôl-weithredol os nad ydych wedi bod mewn cyswllt â meddyg yn ystod eich salwch. Byddwn yn gwneud eithriad mewn rhai amgylchiadau (er enghraifft os oes cofnod o lawdriniaeth o’r ysbyty).