Porth pwysau gwaed
Yn aml mae cael un mesuriad pwysau gwaed gan y nyrs neu’r meddyg yn gamarweiniol. Mae dau prif reswm am hyn:
- Gall pobl gael yn nerfus yn y feddygfa (white coat hypertension).
- Mae pwysau gwaed yn newidiol ac yn gallu bod yn uwch neu’n îs ar wahanol adegau o’r diwrnod.
Oherwydd hyn mae’n ddefnyddiol iawn cael cyfres o fesuriadau wedi eu gwneud gan gleifion yn eu cartref eu hunain. Mae amryw o beiriannau i’w cael sy’n gywir ac wedi eu cymeradwyo gan y Gymdeithas Gorbwysedd Brydeinig. Y peiriant rhataf ar eu rhestr yw’r Kinetik Wellbeing. Mae ar gael mewn amryw o siopau ac ar y wê.
Mesur eich pwysau gwaed adref
Os ydym wedi gofyn i chi fesur eich pwysau gwaed adref dylech ei fesur ddwywaith y dydd am saith diwrnod (bore a nos). Cymerwch y mesuriad ar ôl i chi fod yn ymlacio am o leiaf deg munud. Cymerwch ddau neu dri o fesuriadau a nodi’r isaf ohonynt.
Pan fydd yr holl fesuriadau wedi eu hel dylech eu rhoi i mewn i’r ffurflen isod. Fe fydd yn cyfrifo’r cyfartaledd ac yn ei yrru i ni yn y feddygfa. Dylech yna ddisgwyl i ni ei wirio a dod yn ol atoch.