Logo canlyniadau profion

Canlyniadau profion

Os hoffech drafod canlyniadau profion, ffoniwch ni ar ôl 11yb.

Mae’r profion y gall ein meddygon ofyn amdanynt yn cynnwys profi samplau biolegol (gwaed, wrin, ymgarthion (faeces), spwtwm, darnau gewyn ayyb), a delweddu (pelydr-X, uwchsain, rhai sganiau CT).

Ein trefn ar gyfer profi samplau yw:

  • Os yw meddyg (neu weithiau nyrs) yn teimlo bod angen prawf byddant yn paratoi ffurflen gais.
  • Fel arfer bydd rhaid trefnu apwyntiad nyrs os oes angen sampl gwaed. Ar gyfer samplau eraill gall y claf ei ddarparu yn y feddygfa neu fynd â ffurflen gais a chynhwysydd adref i’w gasglu ar adeg arall.
  • Mae cwrier yn mynd â samplau yn ddyddiol i Ysbyty Gwynedd. Maent fel arfer yn casglu’r samplau am 1yp.
  • Mae’r rhan fwyaf o samplau yn cael eu prosesu yn Ysbyty Gwynedd, ond rhaid gyrru rhai mwy arbenigol i ffwrdd.

Ar gyfer delweddu bydd meddyg yn llenwi ffurflen gais radioleg ac yn ei gyrru unai’n syth i’r ysbyty neu’n ei rhoi i’r claf. Gyda cheisiadau sy’n mynd yn syth i’r ysbyty, cewch alwad ffôn neu lythyr yn eich gwahodd i apwyntiad. Ar gyfer pelydr X, bydd y claf fel arfer yn cael y ffurflen er mwyn trefnu amser eu hunain. Cliciwch yma ar gyfer mwy o wybodaeth am apwyntiadau pelydr X.

Canlyniadau:

  • Bydd y canlyniad yn cael ei anfon yn syth at y meddyg a ofynnodd amdano.
  • Bydd y meddyg yn adolygu’r canlyniad a phenderfynu os yw’n normal, boddhaol, neu bod angen gweithredu pellach.

Os yn normal neu’n foddhaol, ni fydd ein derbynyddion yn cysylltu gyda chi. Dyma rai rhesymau cyffredin dros gysylltu gyda chi:

  • i gynghori bod angen ailwneud y prawf neu gael prawf arall gwahanol
  • i drefnu i weld meddyg neu nyrs
  • i stopio neu newid meddyginiaeth (neu ddôs)

Os nad ydych yn clywed gennym ond eisiau gwybod y canlyniad mae croeso i chi alw’r feddygfa. Ffoniwch ar ôl 11yb os gwelwch yn dda. Nid yw ein derbynyddion wedi cael eu hyfforddi i ddehongli canlyniadau profion, felly dim ond rhannu sylwadau’r meddyg y gallant ei wneud. Os hoffech drafod y canlyniad ymhellach gallwch ofyn i gael siarad â meddyg. Yn aml nid yw canlyniadau gwahanol brofion i gyd yn dod yn ôl yr un pryd.

Isod mae amcan o’r amser y gallai gymryd i ganlyniadau profion gael eu gweithredu. Mae’r amser yma’n cynnwys yr amser prosesu a’r amser sydd ei angen i feddyg eu hadolygu. Nid yw ein meddygon yn y feddygfa bob dydd, felly gall adolygu gymryd hyd at ddau ddiwrnod ychwanegol. Os nad yw prawf wedi ei adolygu eto bydd ein staff yn gofyn i chi ffonio’n ôl ar ddiwrnod arall.

PrawfAmser
Gwaed3 diwrnod
Prawf dwr/sputum/swab4-7 diwrnod
Pelydr XHyd at 7 diwrnod
CT/Uwchsain/MRIHyd at 14 diwrnod
Darnau gewynHyd at 4 wythnos

Os mai meddyg ysbyty sydd wedi gofyn am brawf ni fyddwn fel arfer yn cael gwybod y canlyniad. Peidiwch â’n ffonio ynglŷn â hyn os gwelwch yn dda. Os nad yw meddyg ysbyty yn dweud wrthoch sut i ddisgwyl canlyniad prawf, dylech ofyn iddynt. Os oes oedi neu broblem gyda’r canlyniadau dylech gysylltu gyda ysgrifennydd y meddyg ysbyty.

Apwyntiadau pelydr X

Yn Ysbyty Gwynedd gallwch fynd i glinic heb apwyntiad rhwng 8yb a 12:30yh ar gyfer pelydr X syml. Maent yn gweithio ar sail cyntaf-i’r-felin. Petai’n well gennych gael apwyntiad, ffoniwch y rhif ar frig y ffurflen gais.

Gallwch hefyd gael pelydr X syml yn Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi. Byddwch angen apwyntiad: i drefnu, ffoniwch yr ysbyty ar y rhif ar frig y ffurflen gais.