Datganiad hygyrchedd
Datganiad hygyrchedd Coedyglyn.Cymru
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn gymwys i wybodaeth Meddygfa Coed y Glyn ar Coedyglyn.Cymru
Defnyddio’r wefan hon
Meddygfa Coed y Glyn sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am weld cymaint o bobl â phosib yn defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Hygyrchedd y wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- nid yw rhai tudalennau a dogfennau sydd wedi’u hatodi wedi’u hysgrifennu’n glir
- nid oes penawdau i’r rhesi yn rai tablau
- nid yw rhai penawdau yn gyson
- nid yw teitlau rhai tudalennau yn unigryw
- nid yw rhai labeli yn unigryw
- nid oes testun arall da ar gyfer rhai delweddau
- nid yw’r testun ar gyfer rhai dolenni cyswllt yn disgrifio diben y ddolen
- mae sawl dogfen mewn fformat PDF ac nid ydynt yn hygyrch
Adborth a manylion cyswllt
Mae’r wybodaeth ar y wefan hon ar gael mewn fformat arall fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille drwy gysylltu drwy un o’r dulliau canlynol:
- e-bost: routine.enquiriesw94029@wales.nhs.uk
- ffôn (galwadau yn y Deyrnas Unedig): 01248 722 229
Er mwyn ein helpu i ddiwallu eich anghenion yn well, rhowch wybod inni ym mha fformat arall yr hoffech chi dderbyn gwybodaeth gennym, neu os ydych chi’n defnyddio technoleg gynorthwyol.
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi eto cyn pen 15 diwrnod gwaith.
Os na allwch ddod o hyd inni drwy’r cyfeiriad ar y dudalen cysylltu â’r feddygfa, ffoniwch neu anfonwch e-bost i ofyn am gyfarwyddiadau.
Adrodd am broblemau sy’n gysylltiedig ag hygyrchedd y wefan hon
Rydym yn awyddus bob amser i wella hygyrchedd y wefan. Os byddwch yn ymwybodol o unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os na fyddwch o’r farn ein bod yn bodloni gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â routine.enquiriesw94029@wales.nhs.uk.
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni yn bersonol
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy’n F/fyddar, sydd â nam ar eu clyw neu sydd â nam lleferydd.
Mae dolenni sain i’w cael yn ein swyddfeydd, neu os gysylltwch chi â ni cyn ichi ymweld gallwn drefnu bod dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn bresennol.
Ewch i’r dudalen cysylltu â Llywodraeth Cymru.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Meddygfa Coed y Glyn wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi’u rhestru isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nodwyd y cynnwys nad yw’n hygyrch isod gyda manylion:
- lle y mae’n methu â chyflawni’r meini prawf llwyddiant
- dyddiad arfaethedig ar gyfer trwsio’r materion hyn
Nid oes penawdau ar gyfer rhai rhesi mewn tablau yn y cynnwys pan fo angen. Mae hyn yn methu â chyflawni meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 A 1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd). Rydym yn bwriadu ei ddatrys erbyn Medi 2020.
Nid yw’r penawdau ar rai tudalennau yn eu trefn resymegol. Mae hyn yn methu â chyflawni meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd). Rydym yn bwriadu adnabod a datrys y rhain erbyn Medi 2020.
Nid yw penawdau rhai tudalennau yn unigryw. Nid ydynt yn disgrifio testun neu ddiben y dudalen yn gywir. Mae hyn yn methu â chyflawni meini prawf llwyddiant WCAG 2.4.2 A (penawdau tudalennau). Rydym yn bwriadu ei ddatrys erbyn Medi 2020.
Nid yw testun ar ddolen sydd wedi’i gyfuno â chyd-destun y gall rhaglen ei bennu o ddolen yn nodi diben y ddolen. Mae hyn yn methu â chyflawni meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.4 (diben dolen (mewn cyd-destun)). Rydym yn bwriadu ei ddatrys erbyn Medi 2020.
Nid oes testun arall addas ar gyfer delweddau ar dudalennau bob amser. Nid oes testun arall addas ar gyfer rhai delweddau ac mae testun anghyflawn ar gyfer eraill. Mae hyn yn methu â chyflawni meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.1.1 (cynnwys heb destun). Rydym yn bwriadu adnabod a datrys y rhain erbyn Medi 2020.
Mae gwerthoedd id wedi’u dyblygu ar rai tudalennau. Mae hyn yn methu â chyflawni meini prawf llwyddiant WCAG 4.1.1 A (dosrannu). Rydym yn bwriadu adnabod a datrys y rhain erbyn Medi 2020.
Mae rhai tudalennau’n cynnwys elfennau iframe sydd ddim yn cynnwys priodoledd teitl sy’n nodi’r ffrâm. Mae hyn yn methu â chyflawni meini prawf llwyddiant 2.4.1 A (osgoi blociau). Rydym yn bwriadu adnabod a datrys y rhain erbyn Medi 2020.
PDF a dogfennau eraill
Dylai dogfennau newydd rydym yn eu cyhoeddi i gael mynediad at ein gwasanaethau fod yn gwbl hygyrch.
Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod rhai o’n dogfennau ddim yn hygyrch. Er enghraifft nid yw rhai ohonynt:
- wedi eu marcio mewn modd sy’n caniatáu i ddefnyddwyr rhaglenni darllen sgrin eu deall
- wedi eu tagio’n gywir – er enghraifft, nid ydynt yn cynnwys penawdau cywir
- wedi eu hysgrifennu mewn Cymraeg clir
Mae rhai o’r dogfennau hyn yn ddogfennau hanesyddol ac nid ydynt yn hanfodol i ddarparu’n gwasanaethau. Mae’r mathau hyn o ddogfennau wedi eu heithrio o’r rheoliadau. Nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i’w gwneud yn hygyrch.
Os oes angen i chi gael gwybodaeth sydd yn un o’r mathau hyn o ddogfennau, cysylltwch â ni a gofynnwch am fformat gwahanol.
Llunio’r Datganiad Hygyrchedd hwn
Lluniwyd y datganiad hygyrchedd hwn ar 10 Mawrth 2021. Cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ar 10 Mawrth 2021.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 10 Mawrth 2021. Cynhaliwyd y prawf gan Meddygfa Coed y Glyn gan ddefnyddio’r teclyn WAVE Web Accessibility Evaluation Tool.
Gwnaethom brofi cyfuniad o dempledi craidd, templedi cyffredin a thempledi cymhleth.
Paratowyd y datganiad hwn ar 10 Mawrth 2021. Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 Mawrth 2021.