Fferyllfa
Gall eich fferyllydd roi cyngor i chi ar amryw o broblemau meddygol. Gyda’r Gwasanaeth Mân Anhwylderau gallwch gael triniaeth yn rhad ac am ddim ar gyfer llawer o broblemau.
Ffisiotherapi
Ffisiotherapi yw’r driniaeth orau ar gyfer amryw o broblemau cymalau a phoen corfforol. Gallwch gyfeirio eich hunain i weld ffisiotherapydd heb weld eich meddyg teulu.
Iechyd meddwl
Mae amryw o wasanaethau yn y gymuned sydd yn cynnig cefnogaeth i bobl sy’n dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl. Gallwch gael cwnsela, cyngor, adnoddau, a llawer mwy.
Optegydd
Os oes gennych broblem gyda’ch llygaid neu’ch golwg, gallai’r optegydd archwilio, rhoi diagnosis, a dechrau triniaeth. Oherwydd bod yr offer a’r arbenigedd ganddynt, maent yn aml mewn sefyllfa well na’r meddyg teulu i gynnig cymorth.
Deintydd
Os oes gennych broblem ddeintyddol, dylech fynd i weld eich deintydd. Nid ydym fel meddygon teulu wedi cael hyfforddiant mewn problemau deintyddol. Isod cewch gyngor ar sut i gael hyd i ddeintydd, neu â phwy i gysylltu os oes gennych argyfwng ddeintyddol.
Adnoddau cymdeithasol
Os ydych yn meddwl eich bod chi, un o’ch teulu, neu ffrind angen cymorth gyda bywyd o ddydd i ddydd, mae amryw o wasanaethau ar gael yn y gymuned. Yn ogystal â gwasanaethau cymdeithasol y cyngor, mae nifer o fudiadau ac elusennau eraill yn gallu cynnig cymorth.
Rhoi’r gorau i smygu
Nid yw’n hawdd rhoi’r gorau i smygu, ond gall fod y peth gorau y gallwch ei wneud i’ch iechyd. Mae llu o adnoddau ar gael i’ch helpu roi’r gorau iddi, gan gynnwys y fferyllydd, y gwasanaeth ‘Helpa fi i stopio’, a ni eich meddygon teulu.
Cynllunio teuluol a iechyd rhywiol
Gall clinigau yn y gymuned roi cyngor i chi ar atal cenhedlu, iechyd rhywiol, ac erthylu. Gallant osod dulliau atal-cenhedlu hir-dymor fel y coil a’r mewnblaniad (implant).