Apwyntiadau meddyg
Yn ddiweddar rydym wedi cyflwyno system newydd sy’n rhoi gwell cyfle i gleifion gael cyngor gan ein meddygon.
Bydd ein llinellau ffôn yn agor am 8am fel arfer, a byddwn yn gofyn i chi am ddisgrifiad byr o’r broblem a’r rhif ffôn gorau i ni gysylltu â chi. Bydd eich enw’n cael ei roi ar restr a bydd ein meddyg ar-alwad yn cysylltu gyda chi.
Byddwn yn delio gyda phob problem rhwng 8am a 12:30pm, ond cysylltwch mor fuan â phosib y gallwn gynnig apwyntiad y diwrnod hwnnw os oes angen. Wedi 12:30pm byddwn ond yn delio gyda phroblemau argyfwng.
Byddwn yn blaenoriaethu problemau brys. Dyma pam yr ydym yn gofyn am ddisgrifiad o’r broblem. Os yw’r broblem yn un bersonol, dywedwch wrth ein staff. Gallwch wrth gwrs ddewis peidio dweud beth yw natur y broblem, ond heb y wybodaeth yma ni allwn flaenoriaethu’r broblem.
Dan 16: Bydd pob plentyn dan 16 oed sydd yn cyflwyno â phroblem acíwt yn cael cynnig ymgynghoriad yr un diwrnod (gall hyn fod dros y ffôn, galwad fideo neu wyneb yn wyneb).
Bydd y meddyg yn cysylltu gyda chi yn eich tro am ymgynghoriad ffôn. Cewch gyngor, presgripsiwn, neu os oes angen, apwyntiad i weld y meddyg. Os nad yw’r broblem yn un frys efallai y cewch gynnig ein gweld ar ddiwrnod arall.
Beth yw manteision y system newydd?
- Gall llawer o broblemau gael eu datrys dros y ffôn heb fod angen archwiliad
- Byddwn yn cynnig apwyntiad meddyg i bawb sydd angen un
- Roedd y system bwcio-ar-y-diwrnod yn gallu ei gwneud hi’n anodd i bobl ddod i apwyntiad ar y diwrnod hwnnw. Mae’r system newydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd i’r meddyg gynnig apwyntiad ar amser a diwrnod sy’n gyfleus i chi
- Os nad yw’r broblem yn un frys gallwn drefnu apwyntiad o flaen llawn ar gyfer dyddiad ac amser cyfleus.
- Gallwn drafod materion gweinyddol fel llythyrau cyfeirio, canlyniadau profion, nodiadau iechyd, adroddiadau iechyd ayyb dros y ffôn
- Yn aml, gallwn adolygu a monitro problemau blaenorol heb fod angen i gleifion ddod i’r feddygfa.
Cwestiynau cyffredin
Ydy cleifion dal yn gallu cael apwyntiad?
Ydyn – byddwn yn trefnu apwyntiad i bob claf sydd angen un.
Beth am gyfrinachedd?
Mae pob aelod o’n staff yn gaeth i’r un rheolau cyfrinachedd â’r meddygon. Mae ein derbynyddion eisoes yn delio gyda dyletswyddau cyfrinachol fel nodiadau, canlyniadau, a llythrau cyfeirio.
Beth os yw’n anodd i mi ateb ffôn?
Gadewch i’n staff wybod os na allwch ateb galwad ar amser penodol, a fe wnawn ein gorau i gysylltu â chi pan mae’n gyfleus. Os yw’n amhosib i chi siarad gyda ni, gallwn siarad â rhywun arall, ond mae’n well pob tro i ni siarad gyda chi’n benodol.
Pam wnaethoch chi newid y drefn?
Mae’r galw am apwyntiadau o hyd yn cynyddu, ac roeddem eisiau ffordd well o roi gofal da ac effeithlon i’n cleifion. Cynt, roedd apwyntiadau yn cael eu cynnig ar sail ‘cyntaf-i’r-felin’, ond gellid bod wedi delio â llawer o’r problemau dros y ffôn. Y canlyniad oedd fod rhaid gwahodd cleifion oedd angen apwyntiad wyneb-i-wyneb i’r feddygfa fel argyfwng, gan achosi cynyddiad aruthrol yn y llwyth gwaith.
Gyda’n system newydd gall pob claf gael ymgynghoriad ffôn y diwrnod hwnnw, sydd yn aml yn fwy cyfleus nag apwyntiad, a gyda’r un canlyniad. Mae hyn yn ein galluogi i ni gynnig apwyntiadau i gleifion sydd angen ymgynghoriad wyneb-yn-wyneb.