Cynllunio teuluol ac iechyd rhywiol

Mae clinic cynllunio teuluol a iechyd rhywiol yn Ysbyty Gwynedd. Os hoffech ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, does dim rhaid i chi gael eich cyfeirio gan feddyg.

Mae’r clinig yn wasanaeth cwbl ar wahân i’r feddygfa, gyda nodiadau cyfrinachol. Ni fyddwn yn cael gwybod am eich ymweliad heb i chi roi eich caniatâd yn y clinic.

Gall y clinig roi canlyniadau profion i chi dros neges destun.

Mae’n cynnig y gwasanaethau canlynol:

  • Cyngor ar atal cenhedlu, a phresgripsiwn os oes angen; gosod y coil neu’r implant
  • Atal cenhedlu brys (‘morning after pill’)
  • Profi am heintiau
  • Iechyd menywod, gan gynnwys ymchwilio i fislif poenus a phoen pelfic.
  • Cyngor ar erthylu a chyfeirio os oes angen
  • Gwasanaethau HIV, gan gynnwys PrEP
  • Cyngor ar iechyd rywiol, gan gynnwys cyfeirio at therapi seicorywiol (psychosexual therapy)

Gallwch gael apwyntiad neu weld rhywun ar sail cyntaf i’r felin. Cliciwch yma i fynd i’w gwefan, neu ffoniwch ar 01248 384054.

Logo Cynllunio teulu ac iechyd rhywiol

Gwasanaethau erthylu

Mae BPAS (British Pregnancy Advisory Service) yn elusen sy’n cynnig gwasanaethau erthylu. Maent yn cynnig cwnsela, cyngor am eich opsiynau, trefnu’r driniaeth, a chefnogaeth ar ôl unrhyw driniaeth.

Mae BPAS yn gwbl annibynnol ohonom ni fel meddygon teulu, a does dim angen i chi gael eich cyfeirio. Gallwn ni fel meddygon teulu gynnig cyngor a chefnogaeth, ond os ydych yn penderfynu cael triniaeth byddwn yn eich cynghori i hunan-gyfeirio drwy ffonio BPAS.

Mae’r clinic agosaf yn Llandudno, ac mae’n rhaid trefnu apwyntiad o flaen llaw.

Eu rhif ffon yw 03457304030.

Cliciwch yma i fynd i’w gwefan.