Apwyntiadau nyrs

Gellir trefnu apwyntiadau gyda’r nyrs yn uniongyrchol hyd at 6 wythnos o flaen llaw.

Gellir gwneud apwyntiad ar gyfer:

  • profion gwaed
  • pwysau gwaed
  • ECG
  • prawf ysgyfaint
  • adolygu briwiau a newid gorchuddion (dressings)
  • brechiadau a brechiadau teithio
  • sgrinio serfigol (cervical smears)
  • adolygiadau clefyd siwgr, asthma a COPD
  • tynnu pwythau

Nid ydym yn  cynnig gwasanaeth tynnu cwyr o glustiau mwyach. I ddarllen am gwyr clustiau a’ch opsiynau i’w drin, cliciwch yma.

Pan yn trefnu apwyntiad byddwn yn gofyn am y rheswm gan fod gwahanol amseroedd i bob un o’r uchod.

Os ydych yn teimlo bod angen prawf gwaed arnoch, rhaid i chi siarad â’ch meddyg gyntaf. Peidiwch â gwneud apwyntiad heb fod meddyg teulu neu feddyg ysbyty wedi gofyn amdano.