Logo cwyr clustiau

Cwyr clustiau

Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am gwyr clustiau a’r driniaeth sydd ar gael

Nid ydym bellach yn cynnig gwasanaethau chwistrellu clustiau yn y feddygfa

Mae hyn yn cyd-fynd gyda’r arfer orau gyfredol, ac oherwydd nad yw’r GIG yn cynnig cyllid i feddygfeydd teulu gynnig y gwasanaeth

 

Beth yw cwyr clustiau?

Mae cwyr clustiau yn gyfuniad o gwyr naturiol sydd wedi ei gynhyrchu gan chwarennau tu mewn i’r glust, yn ogystal a chelloedd marw, gwallt, a llwch. Mae’n ffurfio haen amddiffynnol i groen tu mewn y glust (ear canal). Mae’n cael ei gynhyrchu’n gyson, ac yn symud tuag allan drwy’r amser. Gallai darnau o gwyr clust ddisgyn allan ar unrhyw adeg. Mae’r cliriad naturiol yma’n atal gormodedd o gwyr gasglu.

Mae gan bawb gwyr clustiau ac mae angen triniaeth ddim ond os;

  • Mae’n achosi trafferth clywed
  • Bod rhywun angen gweld tympan y glust (eardrum) a bod cwyr yn y ffordd
  • I ffitio teclyn clywed

Gall cwyr clustiau fod yn fwy o broblem i rhai pobl;

  • Os ydych yn naturiol yn cynhyrchu mwy o gwyr
  • Os eich bod yn gwisgo teclyn clywed, plygiau clustiau, neu glustffonau mewnol. Gallai rhain wthio cwyr yn ddyfnach a rhwystro’r cliriad gyffredin
  • Os ydi tu mewn eich clust yn gul neu flewog
  • Os ydych yn hynach gallai’r cwyr fod yn galetach a sychach
  • Os oes gennych ecsema neu psoriasis. Mae’r croen sych sy’n glwm a’r cyflyrau yma gyfrannu tuag at gwyr clustiau

Beth na ddylsech wneud

  • Peidiwch a defnyddio gwlanen clustiau (cotton buds) i lanhau eich clustiau. Mae hyn yn gwthio cwyr yn ddyfnach ac yn gallu achosi anaf neu haint
  • Os yw’ch clustiau’n cosi peidiwch a’u crafu’n ddyfn gyda’ch gwinedd neu rywbeth arall
  • Peidiwch a rhoi dim byd llai na’ch penelin yn eich clustiau!

 

Beth yw’r opsiynau i drin cwyr clustiau?

Os yw cwyr clustiau yn achosi problemau mae ambell i opsiwn i’w drin

Diferion clust

  • Mae diferion clust yn hwyluso cliriad cwyr naturiol y glust. Mae’n meddalul’r cwyr fel ei fod yn llifo allan yn rhwyddach
  • Defnyddiwch olew olewydd (olive oil) cyffredin. Defnyddiwch ‘dropper’ i roi 2-3 diferyn dau neu dri gwaith y diwrnod am dair wythnos
  • Mae’n debyg na wnewch sylwi fod cwyr yn dod allan
  • Os nad yw olew olewydd yn gweithio gallwch brynu diferion sodium bicarbonate o’r fferyllfa

Bylbiau chwistrellu cwyr clustiau

  • Mae’r rhain yn becynnau a gellir eu prynu mewn fferyllfa neu ar y we
  • Dylech feddalu’r cwyr gyda diferion yn gyntaf yn dilyn y cyfarwyddiadau uchod
  • Yn dilyn hyn rydych yn defnyddio bwlb rwber i gyflwyno dwr cynnes ar wasgedd isel i fewn i’r glust, i glirio’r cwyr
  • Mae’n bwysig eich bod yn dilyn cyfarwyddiadau’r cynhyrchwr

Microsuction

  • Os yw dulliau eraill yn methu hwn yw’r driniaeth orau i drin cwyr clust caled
  • Bydd gweithiwr iechyd yn tynnu darnau o gwyr drwy eu sugno gyda tiwben fach (fel hoover bach)
  • Mae’n fwy diogel oherwydd gellir gweld y cwyr yn uniongyrchol, sy’n lleihau’r perygl o anaf
  • Fe gynigir y gwasanaeth yn yr ysbyty neu gan gyflenwyr preifat

Microsuction yn yr ysbyty

  • Gallai’r adran clust, trwyn a gwddf (ENT) weld cleifion, ond gall y rhestr aros fod yn sylweddol
  • Bydd raid i chi weld nyrs yn gyntaf ac yna cael eich cyfeirio

 

Cyflenwyr preifat

Isod mae rhestr o gyflenwyr preifat. Mae prisiau yn cychwyn o £55 i’r ddwy glust

Anglesey Hearing Clinic
M-Sparc
Parc Gwyddoniaeth Menai
Gaerwen
LL60 6AG

www.angleseyhearing.co.uk
01492 540000

Boots
277-279 Stryd Fawr
Bangor
LL57 1PD

www.bootshearingcare.com
0345 270 1600

The Colwyn Bay Hearing Practice
30 Sea View Road
Colwyn Bay
LL29 8DG

www.colwynbayhearing.co.uk
01492 540000

Specsavers Colwyn Bay

14 Bay View Shopping Centre
Colwyn Bay
Conwy
LL29 8DG

www.specsavers.co.uk/stores/colwynbay-hearing
01492 523 810

Geraint Davies Hearing

8 Heol Yr Orsaf Station Rd
Llanrwst
LL26 0EP

www.cic.wales
01492 640101

 

Efallai nad yw’r rhestr uchod yn gyflawn. Os ydych yn cynnig gwasanaethau microsuction o fewn pellter teithio rhesymol o Llangefni a Llanerchymedd ebostiwch ni gyda gwybodaeth bellach i routine.enquiriesw94029@wales.nhs.uk, a fe wnawn gysidro ychwanegu eich manylion i’r dudalen hon.