Optegydd
Mae llawer o optegwyr yn ein hardal yn ran o gynllun Archwiliadau Iechyd Llygaid Cymru. Oherwydd eu harbenigedd a’u hoffer, gall optegwyr ddiagnosio a thrin problemau llygaid a golwg. Gallant roi cyngor, dechrau triniaeth, neu os oes angen, cyfeirio at arbenigwr yn yr ysbyty.
Dyma rai o’r problemau y gallant roi sylw iddynt:
- llygaid sych
- llygaid ddagreuol
- colli golwg a chataract
- lwmpiau ar yr amrannau
- llid yr amrannau (conjunctivitis)
- ‘floaters’ a goleuadau’n fflachio
- alergedd
- crafiad i’r llygad neu rhywbeth yn y llygad
- colli golwg yn sydyn mewn un llygad