Oherwydd yr argyfwng COVID nid ydym yn cofrestru cleifion ar gyfer Fy Iechyd Ar-Lein ar hyn o bryd. Mae hyn oherwydd bod rhaid cofrestru yn y feddgyfa, ac rydym yn ceisio lleihau’r nifer o gleifion sy’n dod i’r feddygfa gymaint â phosib.
Mae Fy Iechyd Ar-Lein yn declyn ar-lein sy’n eich galluogi drefnu rhai agweddau ar eich gofal iechyd. Mae’n ffordd ddiogel a chyfleus o gysylltu gyda’r feddygfa.
Mae posib:
- archebu ail bresgripsiwn
- gofyn am alwad ffôn gan feddyg
- bwcio apwyntiad nyrs
- diweddaru eich manylion personol.
Bydd rhaid i chi ddod i’r feddygfa i’w roi ar waith, ac efallai bydd rhaid i ni weld dull adnabod gyda llun.