Bydwraig
Pan ydych yn darganfod eich bod yn feichiog dylech fwcio mewn gyda’r bydwraig fel bod yr apwyntiadau a phrofion angenrheidiol yn cael eu trefnu mewn pryd. Dylai’r ymgynghoriad bwcio ddigwydd cyn eich 10fed wythnos o feichiogrwydd. Peidiwch a phoeni os ydych yn hwyrach na hyn, ond dylech fwcio gyda’r bydwraig cyn gynted a phosib.
Oherwydd yr argyfwng COVID mae’r drefn bwcio wedi newid ychydig. Mae’r ymgynghoriad bwcio bellach yn cael ei wneud dros y ffôn – ffoniwch 03000 853 178 i drefnu hyn. Ar ryw adeg byddwch angen cael eich gweld wyneb yn wyneb, er mwyn gwneud profion syml fel pwysau gwaed, profi dwr, ac i fesur taldra a phwysau.
Asid ffolig a fitamin D
Os ydych yn ceisio beichiogi rydym yn awgrymu eich bod yn cymeryd asid ffolig. Mae hyn i sicrhau datblygiad iach asgwrn cefn y babi. Peidiwch a phoeni os nad oeddech eisioes yn cymeryd asid ffolig pan wnaethoch ddarganfod eich bod yn feichiog, dechreuwch ei gymeryd cyn gynted ag eich bod yn gwybod. Dylech gymeryd asid ffolig am y 12 wythnos cyntaf o’ch beichiogrwydd. Unwaith rydych yn feichiog fe awgrymir eich bod hefyd yn cymeryd fitamin D, i barhau drwy’r feichiogrwydd a thra’n bwydo o’r fron. Mae tabledi asid ffolig a fitamin D ar gael yn y fferyllfa.
Pa ddôs o asid ffolig ddylwn i gymeryd?Bydd y rhan fwyaf o ferchaid angen cymeryd 400 microgram. Gallwch brynu hwn dros y cownter mewn cyfuniad gyda fitamin D.
Dylech gymeryd 5mg os;
- ydych chi neu tad biolegol y babi gyda problem tiwb niwral
- rydych eisioes wedi cael beichiogrwydd wedi ei effeithio gan broblem tiwb niwral
- ydych chi neu tad biolegol y babi gyda hanes teulu o broblemau tiwb niwral
- mae gennych y clefyd siwgr
- ydych yn cymeryd meddyginiaeth gwrth epilepsi
Diet
Yn ystod eich ymgynghoriad bwcio bydd eich bydwraig yn trafod cyngor ddietegol beichiogrwydd gyda chi. Mae crynodeb o’r cyngor yma ar gael ar wefan y GIG – cliciwch yma i fynd yno. Mae hwn yn adnodd defnyddiol y gallwch ddarllen cyn eich ymgynhgoriad bwcio, neu fel cyfeirnod yn ystod eich beichiogrwydd. Mae’n bwysig osgoi rhai bwydydd – cliciwch yma i fynd i’r dudalen GIG am gyngor. Ymddiheurwn nad yw’r tudalennau yma wedi eu cyfieuthu i’r Gymraeg.