Cofrestru
Cleifion parhaol
I gofrestru fel claf newydd yn unai Coed y Glyn neu Glan Menai bydd rhaid i chi ddod i fewn i’r feddygfa gyda;
- Dau ddull adnabod (identification)
- Rhaid i o leiaf un fod gyda llun ohonoch arno
- Rhaid i o leiaf un fod gyda’ch cyfeiriad lleol arno
- Ffurflen GMS1 wedi ei chwblhau
- Holiadur iechyd wedi ei gwblhau
I gwblhau’r ffurflen GMS1 byddwch angen eich rhif NHS. Os nad ydych yn ei wybod bydd rhaid i chi gysylltu gyda’ch meddygfa flaenorol. Ni fyddwn yn gwneud hyn ar eich rhan. Byddwch hefyd angen manylion eich meddygfa flaenorol.
Cyn gweld meddyg, fel arfer bydd angen i chi weld nyrs am archwiliad meddygol claf newydd.
Wedi i chi gofrestru, gall gymryd pythefnos neu fwy i ni dderbyn eich nodiadau gan eich meddyg blaenorol. Ni allwn gael eich nodiadau’n gynt ac eithrio mewn argyfwng.
Os ydych angen ailadrodd presgripsiwn, byddwn angen copi o’ch taflen ailadrodd presgripsiwn.
Cleifion dros dro
Gallwch gofrestru fel claf dros dro os oes angen triniaeth frys arnoch. Bydd angen i chi ddod i’r feddygfa gyda ffurflen GMS3 wedi ei chwblhau (ymddiheurwn ei bod yn uniaith Saesneg).
I gwblhau’r ffurflen GMS3, byddwch angen eich rhif NHS. Os nad ydych yn ei wybod bydd rhaid i chi gysylltu gyda’ch meddygfa arferol. Ni fyddwn yn gwneud hyn ar eich rhan. Byddwch hefyd angen manylion eich meddygfa arferol.
Os ydych angen ailadrodd presgripsiwn, byddwn angen copi o’ch taflen ailadrodd presgripsiwn.