Logo presgripsiynau

Presgripsiynau

Os ydych yn cael presgripsiwn rheolaidd, bydd slip ailadrodd presgripsiwn yn cael ei argraffu fel yr ydych ei angen (yn fisol fel arfer). Pan gewch eich meddyginiaeth, cewch y slip ailadrodd presgripsiwn i’w gadw tan y byddwch angen ailarchebu.

Pan fyddwch angen eich presgripsiwn nesaf, dewch â’r slip ailadrodd i’r feddygfa gyda thic wrth ymyl y feddyginiaeth rydych ei hangen. Os ydych wedi colli’r slip, gallwch ysgrifennu eich enw a’ch dyddiad geni ar bapur ynghyd â’r meddyginiaethau sydd eu hangen. Gallwch hefyd archebu gyda Fy Iechyd Ar-Lein os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth.

Os ydych yn cael eich meddyginiaethau o fferyllfa, gallwch eu henwebu i gysylltu gyda ni i ailadrodd eich presgripsiwn. Mae gan fferyllfeydd systemau gwahanol felly siaradwch gyda nhw am fwy o wybodaeth.

Archebwch y meddyginiaethau rydych eu hangen yn unig. Rydym yn aml yn canfod fod cleifion yn archebu pob eitem yn ddi-angen – gall hyn arwain at wastraffu meddyginiaeth.

Gadewch 48 awr i ni baratoi’r presgripsiwn (nid yw hyn yn cynnwys penwythnosau).

Gallwch ailadrodd presgripsiwn nifer penodol o weithiau. Unwaith bydd y nifer hwn wedi’i gyrraedd, efallai bydd rhaid i ddoctor neu nyrs adolygu’ch triniaeth gyda chi. Gall hyn gynnwys profion gwaed neu ddŵr, pwysau gwaed ayyb. Gadewch ddigon o amser i drefnu adolygiad os ydych yn meddwl efallai bod angen un – cysylltwch gyda ni os nad ydych yn siwr.

Weithiau efallai bydd angen ailarchebu presgripsiwn yn fuan, e.e. os ydych yn mynd ar wyliau. Sicrhewch ein bod yn ymwybodol o’r rheswm am gais buan, neu fel arall efallai y caiff ei wrthod.

Dosbarthu meddyginiaethau

Fel meddygfa sy’n dosbarthu meddyginiaethau, gallwn gyflenwi eich meddyginiaethau os ydych yn byw dros filltir o fferyllfa. Os ydych angen presgripsiwn ar ôl ymgynghoriad, fe’i cewch feddygfa, yn ogystal â phresgripsiynau sy’n cael eu hailadrodd.

Pan fyddwch yn cofrestru gyda’r feddygfa, byddwn yn asesu os ydych yn deilwng.