Rhoi’r gorau i smygu
Mae’n debyg mai rhoi’r gorau i smygu yw’r peth gorau y gallwch ei wneud i’ch iechyd. Os ydych yn rhoi’r gorau iddi, byddwch yn teimlo’n iachach ac yn gallu gwneud mwy, nid yn unig rŵan ond drwy gydol eich bywyd. Gyda phaced o sigarets ar gyfartaledd bellach yn costio £12.73 bydd eich walet neu’ch pwrs hefyd yn teimlo’n iachach!
Mae llawer o wasanaethau ar gael yn y gymuned i’ch helpu i roi’r gorau iddi, a phob un yn gwella eich siawns o lwyddo.

Helpa fi i stopio
Drwy gysyllltu gyda ‘Helpa fi i stopio’, gallwch gael cefnogaeth GIG a all gynyddu’ch siawns o roi’r gorau iddi o 300%!
Gallant gynnig:
- Cymorth cyfrinachol diragfarn am ddim gan arbenigwr mewn rhoi’r gorau i smygu
- Cymorth wyneb-yn-wyneb neu dros y ffôn
- Cymorth un-i-un neu gwrdd â smygwyr eraill
- Sesiynau wythnosol wedi’u haddasu i’ch anghenion chi
- Monitro eich cynnydd
- Cael meddyginiaeth rhoi’r gorau i smygu am ddim
Cliciwch yma i fynd i’w gwefan neu ffoniwch nhw am ddim ar 0808 250 6061.
Fferyllfa
Gall eich fferyllydd drafod eich anghenion a rhoi cyngor ar feddyginiaethau i’ch helpu i roi’r gorau iddi. Gallwch ddefnyddio teclyn ar-lein ar wefannau rhai fferyllfeydd, yna cael y meddyginiaethau wedi eu danfon i’ch cartref yn ddi-dâl.
Bydd rhaid i chi dalu am rai o’r meddyginiaethau maent yn eu hawgrymu, a bydd angen i chi gael presgripsiwn gennym ni am rai ohonynt.