Gweinyddol
Yn ystod yr pandemig COVID rydym wedi cyfynu’r gwaith gweinyddol di-GIG rydym yn ei wneud. Efallai byddwn yn cynnig dewis arall, cyfeirio i rywle arall, neu’n gwrthod rhai ceisiadau.
Gwaith preifat
Nid yw rhai gwasanaethau yn cael eu cyllido gan y GIG, felly byddwn yn codi ffi am eu gwneud.
Cliciwch yma i ddarllen pam rydym yn codi ffioeddPam eich bod weithiau’n codi ffi?
Mae’n bwysig cofio nad yw’r rhan fwyaf o feddygon teulu wedi eu cyflogi gan y GIG.
Rydym yn hunan-gyflogedig ac yn gorfod talu ein costau – staff, cynnal adeiladau ayyb – yn yr un modd ag unrhyw fusnes bach arall. Mae’r GIG yn talu’r costau yma am waith GIG, ond am bob gwaith arall mae’r ffîoedd yn cyfrannu tuag at y costau yma.
Oes rhaid i feddygon teulu wneud gwaith preifat i’w cleifion?
Gydag ambell eithriad, does dim rhaid i feddygon teulu wneud gwaith preifat ar ran eu cleifion. Er y byddwn bob tro’n ceisio bod o gymorth i gleifion drwy lenwi ffurflenni, er engrhaifft ar gyfer dibenion yswiriant, does dim ymrwymiad arnom i wneud gwaith tu allan i’r GIG.
Pam y gallai gymryd hir i’r meddyg lenwi fy ffurflen?
Mae’r amser mae’n gymryd i lenwi ffurflenni a pharatoi adroddiadau yn ein cymryd oddi wrth ofalu am ein cleifion. Mae gennym faich gwaith trwm iawn ac mae gwaith papur yn cymryd mwy a mwy o’n hamser, felly gall fod yn anodd gwneud gwaith preifat ar ben ein horiau arferol.
Dim ond llofnod rydw i ei angen – beth yw’r broblem?
Pan rydym yn arwyddo tystysgrif neu’n paratoi adroddiad, rhaid i ni sicrhau fod yr hyn rydym yn ei arwyddo yn gywir – mae hyn yn un o amodau’r Gofrestr Feddygol. Felly er mwyn i ni baratoi ffurflen, efallai bod rhaid gwirio holl nodiadau meddygol y claf. Gall bod yn ddiofal neu gyflwyno adroddiad anghywir arwain at ganlyniadau difrifol i feddyg gyda’r General Medical Council neu hyd yn oed yr heddlu.
Rydym yn cynnig y gwasanaethau preifat canlynol:
- Llythyrau cefnogol
- Llythyr i egluro’r angen am feddyginiaeth i deithio
- Adroddiadau i gyflogwyr
- Nodiadau salwch preifat
- Adroddiadau yswiriant
Fel arfer bydd cwmnïau yswiriant yn ysgrifennu’n uniongyrchol atom wedi i chi arwyddo ffurflen yn datgan eich bod yn fodlon i ni ddatgelu gwyboadeth am eich iechyd. Unwaith bydd yr adroddiad wedi ei baratoi byddwn fel arfer yn gyrru anfoneb am y gost yn syth i’r cwmni.
Cliciwch yma i weld rhestr gyfredol o’n ffioedd.
Cyfeiriadau
GIG
Os ydych yn cael eich cyfeirio gennym at arbenigwr yn yr ysbyty, byddwn yn anfon llythyr yn electronig yn syth i’r ysbyty. Byddwn yn nodi ‘arferol’, ‘brys’, neu ‘brys – amheuaeth o gancr’ arno. Yn yr ysbyty bydd yr arbennigwr yn darllen y llythyr ac yn rhoi eich achos ar restr aros. Efallai na fyddant yn cytuno bod eich achos yn un brys ac yn eich rhoi ar restr aros arferol. Weithiau byddant yn ysgrifennu’n ôl atom gyda chyngor.
Gall y broses uchod gymeryd hyd at bythefnos. Yna dylech dderbyn llythyr yn dweud eich bod ar y rhestr aros gydag amcan o’r amser aros. Nid ydym ni’n cael copi o’r llythyr hwn felly os ydych eisiau mwy o fanylion dylech ffonio ysgrifennydd yr arbenigwr.
Cyflymu cyfeiriadau
Os ydych yn poeni fod yr amser aros yn hir dylech gysylltu gyda ysgrifennydd yr arbenigwr. Byddant eisiau gwybod ar ba sail rydych yn teimlo eich bod angen cael eich gweld ynghynt, ac os oes rhywbeth wedi newid ers i ni eich cyfeirio. Mae baich gwaith trwm iawn ar ein cydweithwyr yn yr ysbyty, felly nid yw byrhau’r amser aros o hyd yn bosib.
Preifat
Os ydych eisiau gweld rhywun yn breifat mae’r dull cyfeirio yn gallu amrywio. Os oes gennych yswiriant iechyd, rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu gyda’ch darparwr er mwyn canfod beth yw’r camau y dylech gymeryd. Os nad oes yswiriant gennych mae’n rhaid i chi ganfod arbenigwr yr hoffwch weld, a chysylltu gyda hwy er mwyn trefnu apwyntiad. Mae amryw o ddarparwyr preifat ar gael, ond yr un mwyaf yng ngogledd Cymru yw Spire. Cliciwch yma i fynd i’w gwefan. Unwaith bydd apwyntiad wedi ei drefnu, byddant fel arfer yn eich cynghori i gysylltu gyda ni i ofyn i ni baratoi llythyr cyfeirio i chi fynd gyda chi.
Mae rhai arbenigwyr lleol yn gweithio’n breifat o feddygfa Felinheli. Mae’r arbenigeddau’n cynnwys orthopaedeg, ENT (clust, trwyn a gwddf), a niwroleg. Maent yn derbyn atgyfeiriadau yn uniongyrchol gennym, felly cysylltwch gyda ni os hoffech i ni drefnu i’ch cyfeirio yno.