Logo fferyllfa

Fferyllfa

Gwasanaeth Mân Anhwylderau

Mae’r gwasanaeth mân anhwyderau yn wasanaeth GIG am ddim sy’n galluogi i gleifion gael cyngor a thriniaeth ar gyfer 26 cyflwr.

Mae’r gwasanaeth yn cynnwys;

  • Cofrestru’r claf gyda’r fferyllfa
  • Ymgynghoriad preifat gyda’r fferyllydd
  • Cyngor ar reolaeth a thriniaeth NEU gyfeirio ymlaen os oes angen.

Gall fferyllwyr gynnig cyngor a/neu driniaeth ar gyfer 26 cwyn

AcneBrech IeirLlid yr amrannau (conjunctivitis)
Dolur rhydd*Clefyd y gwairGewin bawd y droed yn gordyfu*
Brech clwt (nappy rash)Dolur gwddf/tonsillitisLlindag y wain (vaginal thrush)
Tarwden y traed (athlete’s foot)Dolur annwyd (cold sore)Rhwymo
Llygaid sychLlau penY crwn
Tarwden y ceg (oral thrush)Hel danneddDafad
Poen cefn (aciwt)Colig*Ecsema
Gwaedlifau (haemorrhoids)Dwr poethWlser cêg
Y clafr (scabies)Llyngyr

*cyngor yn unig – triniaeth ddim ar gael ar y GIG – mae’r rhain yn gwynion lle nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi defnydd meddyginiaeth ar y GIG.

Ni all cleifion sy’n dioddef o gwynion eraill gael cyngor gan y Gwasanaeth Mân Anhwylderau. Ond gallant gael cyngor gan y fferyllydd gyda’r dewis o brynu meddyginiaeth dros y cownter.

Os yw’r fferyllydd yn teimlo bod angen i’r claf weld y meddyg teulu byddant yn cyfeirio yn ôl y gofyn.

Ar gyfer rhai cwynion, mae gwaharddiadau yn seiliedig ar

  • Oed
  • Beichiogrwydd/bwydo ar y fron
  • Os ydynt wedi cael y gŵyn nifer o weithiau