Mae’r dudalen hon yn diweddaru am y frechiadau. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am y rhaglen frechu COVID yn Coed y Glyn.
Ar hyn o bryd rydym wrthi’n gwahodd cleifion sydd yn grwpiau blaenoriaeth 6 a 7:
6) Oed 16-65 gyda chyflwr gyda risg (mae mwy o wybodaeth am hyn yma)
7) Oed 60 ac uwch
Ail ddôs
Yn fuan byddwn yn dechrau galw cleifion a gafodd eu brechiad cyntaf yn y feddygfa i gael eu hail ddôs. Os cafwyd y frechiad gyntaf mewn canolfan frechu cewch alwad gan y GIG i drefnu’r ail ddôs.
Os gwelwch yn dda peidiwch a chysylltu a’r feddygfa i holi:
- pryd cewch eich brechiad gyntaf
- pryd cewch eich ail frechiad (os cafwyd y cyntaf yn y feddygfa neu beidio)
- os cewch eich brechiad yn fwy buan
Rydym yn gwybod bod ein cleifion yn frwdfrydig iawn i gael y frechiad, ond mae’r galwadau yma’n ychwanegu i’n baich gweithio sylweddol. Mae ein staff yn gweithio’n galed i drefnu clinigau, sydd yn cael eu trefnu cyn gynted a fod y brechiadau’n cael eu danfon.