Polisi ebost

  • Ni allwn ateb drwy ebost heblaw eich bod wedi cyflenwi eich cyfeiriad yn flaenorol, a’n bod wedi profi eich henw.
  • Os nad oes cofnod gennym o’ch cyfeiriad ebost ni allwn ateb drwy ebost felly os oes angen ymateb arnoch gofynnwn i chi gysylltu a’r feddygfa ar 01248 722 229.
  • Chi sy’n gyfrifol am sichrau cywirdeb eich gosodiadau ebost i alluogi bod ymateb yn cael ei dderbyn yn eich mewnflwch ebost.
  • Gall holl staff y feddygfa weld gohebiaeth ebost a fydd yn cael ei storio a’i gadw yn ôl ein polisi cadw nodiadau meddygol.
  • Nid yw cyfrifau ebost ar-lein yn ddiogel, a dylech fod yn ymwybodol a chymeryd cyfrifoldeb bersonol dros y peryg o ebyst yn cael eu rhyng-gipio neu eu ‘hacio’.
  • Mae’r feddygfa’n awgrymu eich bod yn defnyddio cyfrifau ebost preifat a nid cyfrif deuluol neu wedi ei rannu er mwyn cyfathrebu a’r feddygfa.
  • Byddwn yn ateb unwaith yn unig i ebost cleifion ac os oes gennych ymholiad pellach dylech gysylltu gyda’r feddygfa drwy ffonio.
  • Bydd y feddygfa yn ateb drwy ebost neu’n ffonio’r claf o fewn 5 diwrnod gweithio, ac os nad ydych wedi cael ymateb yn yr amser yma ffoniwch y feddygfa os gwelwch yn dda.
  • Os yw ymholiad yn un brys dylech ffonio’r feddygfa ar y rhif uchod.