Pobl dros 65 neu gyda chyflwr iechyd hir-dymor
Mae’r ffliw yn debygol o fod yn fwy difrifol os oes gennych chi gyflwr iechyd tymor hir, os ydych chi’n feichiog neu os ydych chi’n 65 oed neu’n hŷn. Os yw unrhyw un o’r rhain yn berthnasol i chi, rydych chi hefyd yn wynebu risg o fod yn ddifrifol wael gyda COVID-19. Mae’r ffliw yn gallu bod yn ddifrifol i blant ifanc hefyd.
Bob blwyddyn yng Nghymru mae tri chwarter miliwn o bobl yn cael brechiad y ffliw. Mae hynny’n 1 o bob 4 o bobl.
Os yw unrhyw rai o’r canlynol yn berthnasol i chi, rydych chi’n fwy tebygol o gael cymhlethdodau o ddal y ffliw a dylech gael brechiad y ffliw:
Rydych chi’n feichiog
Rydych chi’n 65 oed neu’n hŷn
Rydych chi’n byw mewn cartref preswyl neu nyrsio
Mae gennych chi broblem gyda’r galon
Mae gennych chi broblem gyda’r frest neu anawsterau anadlu, gan gynnwys asthma sydd angen anadlydd steroid neu dabledi rheolaidd
Mae gennych chi afiechyd ar yr arennau
Mae gennych chi imiwnedd gwan oherwydd afiechyd neu driniaeth (fel triniaeth steroid neu ganser) neu rydych chi’n dod i gysylltiad agos â neu’n byw yn yr un tŷ â rhywun sydd ag imiwnedd gwan
Mae gennych chi afiechyd ar yr iau/afu
Mae gennych chi ddiabetes
Rydych chi wedi cael strôc (neu strôc fechan)
Mae gennych chi gyflwr niwrolegol, er enghraifft, sglerosis ymledol (MS), parlys yr ymennydd neu syndrom ôl-polio
Rydych chi’n anabledd dysgu
Mae gennych chi broblem gyda’ch dueg, er enghraifft, afiechyd y grymangell, neu rydych chi wedi cael tynnu’ch dueg
Rydych chi’n oedolyn gyda phwysau corff uwch (Mynegai Màs y Corff (BMI) o 40 neu fwy)
Os ydych chi yn un o’r grwpiau hyn, dylech gael brechiad y ffliw hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n iach.
Plant
Bydd pob plentyn rhwng dwy a 10 oed (31 Awst 2020) yn cael cynnig brechlyn ffliw chwistrell trwynol yn rheolaidd yr hydref hwn i helpu i’w hamddiffyn rhag ffliw.
Gall y ffliw fod yn annymunol iawn i blant a gall rhai ddatblygu cymhlethdodau difrifol fel niwmonia a broncitis. Bob blwyddyn mae plant yng Nghymru angen triniaeth mewn unedau Gofal Dwys oherwydd y ffliw. Plant sydd a’r gyfradd heintio uchaf, felly wrth rwystro plant ddal y ffliw gallwn amddiffyn aelodau bregus eraill y gymuned.