Brechiadau COVID

Mae’r dudalen hon yn diweddaru am y frechiadau. Cliciwch yma i  gael mwy o wybodaeth am y rhaglen frechu COVID yn Coed y Glyn.

Ar hyn o bryd rydym wrthi’n gwahodd cleifion sydd yn grwpiau blaenoriaeth 6 a 7:

6) Oed 16-65 gyda chyflwr gyda risg (mae mwy o wybodaeth am hyn yma)

7) Oed 60 ac uwch

Ail ddôs

Yn fuan byddwn yn dechrau galw cleifion a gafodd eu brechiad cyntaf yn y feddygfa i gael eu hail ddôs. Os cafwyd y frechiad gyntaf mewn canolfan frechu cewch alwad gan y GIG i drefnu’r ail ddôs.

Os gwelwch yn dda peidiwch a chysylltu a’r feddygfa i holi:

  • pryd cewch eich brechiad gyntaf
  • pryd cewch eich ail frechiad (os cafwyd y cyntaf yn y feddygfa neu beidio)
  • os cewch eich brechiad yn fwy buan

Rydym yn gwybod bod ein cleifion yn frwdfrydig iawn i gael y frechiad, ond mae’r galwadau yma’n ychwanegu i’n baich gweithio sylweddol. Mae ein staff yn gweithio’n galed i drefnu clinigau, sydd yn cael eu trefnu cyn gynted a fod y brechiadau’n cael eu danfon.

 

 

Brechiadau ffliw

Pobl dros 65 neu gyda chyflwr iechyd hir-dymor

Mae’r ffliw yn debygol o fod yn fwy difrifol os oes gennych chi gyflwr iechyd tymor hir, os ydych chi’n feichiog neu os ydych chi’n 65 oed neu’n hŷn. Os yw unrhyw un o’r rhain yn berthnasol i chi, rydych chi hefyd yn wynebu risg o fod yn ddifrifol wael gyda COVID-19. Mae’r ffliw yn gallu bod yn ddifrifol i blant ifanc hefyd.

Bob blwyddyn yng Nghymru mae tri chwarter miliwn o bobl yn cael brechiad y ffliw. Mae hynny’n 1 o bob 4 o bobl.

Os yw unrhyw rai o’r canlynol yn berthnasol i chi, rydych chi’n fwy tebygol o gael cymhlethdodau o ddal y ffliw a dylech gael brechiad y ffliw:

Rydych chi’n feichiog
Rydych chi’n 65 oed neu’n hŷn
Rydych chi’n byw mewn cartref preswyl neu nyrsio
Mae gennych chi broblem gyda’r galon
Mae gennych chi broblem gyda’r frest neu anawsterau anadlu, gan gynnwys asthma sydd angen anadlydd steroid neu dabledi rheolaidd
Mae gennych chi afiechyd ar yr arennau
Mae gennych chi imiwnedd gwan oherwydd afiechyd neu driniaeth (fel triniaeth steroid neu ganser) neu rydych chi’n dod i gysylltiad agos â neu’n byw yn yr un tŷ â rhywun sydd ag imiwnedd gwan
Mae gennych chi afiechyd ar yr iau/afu
Mae gennych chi ddiabetes
Rydych chi wedi cael strôc (neu strôc fechan)
Mae gennych chi gyflwr niwrolegol, er enghraifft, sglerosis ymledol (MS), parlys yr ymennydd neu syndrom ôl-polio
Rydych chi’n anabledd dysgu
Mae gennych chi broblem gyda’ch dueg, er enghraifft, afiechyd y grymangell, neu rydych chi wedi cael tynnu’ch dueg
Rydych chi’n oedolyn gyda phwysau corff uwch (Mynegai Màs y Corff (BMI) o 40 neu fwy)
Os ydych chi yn un o’r grwpiau hyn, dylech gael brechiad y ffliw hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n iach.

Plant

Bydd pob plentyn rhwng dwy a 10 oed (31 Awst 2020) yn cael cynnig brechlyn ffliw chwistrell trwynol yn rheolaidd yr hydref hwn i helpu i’w hamddiffyn rhag ffliw.

Gall y ffliw fod yn annymunol iawn i blant a gall rhai ddatblygu cymhlethdodau difrifol fel niwmonia a broncitis. Bob blwyddyn mae plant yng Nghymru angen triniaeth mewn unedau Gofal Dwys oherwydd y ffliw. Plant sydd a’r gyfradd heintio uchaf, felly wrth rwystro plant ddal y ffliw gallwn amddiffyn aelodau bregus eraill y gymuned.

Swydd – Derbynnydd

28 awr yr wythnos

Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol a chyfeillgar i ymuno a’r Practis.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos sgiliau cyfathrebu a technoleg gwybodaeth cryf a gyda’r gallu i weithio o dan bwysau.

Bydd yr angen i fod yn hyblyg i weithio oriau ychwanegol ar gyfer gwyliau a salwch fel bo’r angen.

Bydd cymhwyster mewn Gwasanaethau Dosbarthu Lefel 2 neu gymhwyster gyfatebol ac hefyd profiad o fewn maes Gofal Sylfaenol yn fantesiol.

Bydd y gallu i siarad yn Gymraeg yn fanteisiol.

Gellir gwneud cais drwy CV a llythyr drwy e-bost neu drwy’r post i:
E-bost: bethan.williams4@Wales.nhs.uk
Miss Bethan Williams, Rheolwr y Practis, Coed y Glyn, Llangefni, LL77 7DU.

Dyddiad cau – Dydd Llun 7fed o Fedi 2020

Croeso nôl i Dr Jo

Rydym yn falch iawn o groesawu Dr Jo yn ôl o Awstralia. Mae o wedi cael amser gwych ond yn frwdfrydig i ailafael gyda’i waith yn Coed y Glyn.