Brechiadau COVID

Ar hyn o bryd rydym yn brechu grwpiau 6 a 7:

6. Oedolion oed 16-65 mewn grwp risg uchel (cliciwch yma i weld y rhestr honno)

7. Pawb dros 60 oed

 

Os gwelwch yn dda peidiwch a chysylltu a’r feddygfa i holi:

  • pryd cewch eich brechiad gyntaf
  • pryd cewch eich ail frechiad (os cafwyd y cyntaf yn y feddygfa neu beidio)
  • os cewch eich brechiad yn fwy buan

Pryd cewch y frechiad

Bydd pob oedolyn dros 16 oed yn cael cynnig y frechiad yn ôl trefn anghenion meddygol. Cliciwch yma i weld rhestr y grwpiau blaenoriaeth.

Lle cewch y frechiad

Gallwch gael y frechiad unai yn y feddygfa neu mewn canolfan frechu fel Ysbyty Enfys, Bangor. Gallwn gynnig y frechiad AstraZeneca yn y feddygfa, a fel arfer cewch gynnig y frechiad Pfizer mewn canolfan frechu.

Sud cewch eich gwahodd

Ar gyfer brechiadau yn y feddygfa byddwn yn cysylltu gyda chi, fel arfer drwy alwad ffôn. Ar gyfer brechiadau mewn canolfan frechu byddwch fel arfer yn cael galwad gan y GIG, ond weithiau byddwn ni’n cysylltu o’r feddygfa.

Beth i’w ddisgwyl ar y diwrnod

Cewch wahoddiad i ddod i glinig brechu yn y feddygfa, â allai fod yn hwyr yn y prynhawn neu ar benwythnos. Bydd ein staff yn cadarnhau eich manylion ac yn holi os oes gennych symptomau COVID cyn i chi fynd i mewn i’r feddygfa. Yna cewch eich galw i gael y frechiad gan feddyg neu gan nyrs. Heblaw cleifion sydd ar feddyginiaeth teneuo’r gwaed, does dim angen i chi aros i gael eich monitro wedi’r frechiad. Rydym yn awgrymu i chi beidio gyrru am 15 munud wedi’r frechiad.

Cewch gerdyn brechu, gyda gwybodaeth am y frechiad arno. Gofynnwn i chi ddod a hwn gyda chi pan cewch eich ail ddôs.

Beth i’w ddisgwyl ar ôl y frechiad

Mae’r symptomau canlynol yn gyffredin iawn:

  • cael braich poenus, trwm i’w deimlo, a thynerwch yn y fraich lle cawsoch y frechiad Mae hyn yn tueddu i fod ar ei waethaf 1-2 diwrnod ar ôl cael y frechiad
  • teimlo’n flinedig
  • cur pen
  • poen cyffredinol, neu symptomau tebyg i ffliw ysgafn

Does dim angen i chi gysylltu a’r feddygfa i drafod yr uchod, ond os ydych yn poeni am rywbeth arall cysylltwch â ni. Mae’n gyffredin cael gwres a theimlo’n boeth neu oer am 2-3 diwrnod ond os cewch wres uchel, neu gwres sy’n parhau am hirach na hyn, dylech drefnu prawf COVID.

Grwpiau blaenoriaeth

  1. Preswylion cartrefi i’r henoed a staff sy’n gweithio mewn cartrefi i’r henoed
  2. Pawb dros 80 oed a gweithwyr rheng flaen y gwasanaeth iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol
  3. Pawb dros 75 oed
  4. Pawb dros 70 oed ac unigolion sy’n glinigol fregus tu hwnt (ddim yn cynnwys merchaid beichiog a rhai dan 16 oed)
  5. Pawb dros 65 oed
  6. Oedolion oed 16-65 mewn grwp risg uchel (cliciwch yma i weld y rhestr honno)
  7. Pawb dros 60 oed
  8. Pawb dros 55 oed
  9. Pawb dros 50 oed
  10. Gweddill y boblogaeth (trefn i gael ei benderfynnu)

Rhestr grwp risg uchel

  • cancr y gwaed (fel liwcimia, lymffoma neu myeloma)
  • clefyd siwgr
  • dementia
  • problemau gyda’r galon
  • problem gyda’r frest neu anhawster anadlu, yn cynnwys bronchitis, emffysima, neu asthma difrifol
  • problem gyda’r arennau
  • problem gyda’r iau
  • gostyngiad imiwnedd oherwydd afiechyd neu driniaeth (fel haint HIV, meddyginiaeth steroid, cimotherapi, neu radiotherapi)
  • arthritis gwynegol (rheumatoid arthritis), lupus, neu psoriasis (sydd angen triniaeth hir dymor sy’n gostwng imiwnedd)
  • wedi cael trawsblaniad organ
  • wedi cael strôc neu transient ischaemic attack (TIA)
  • cyflwr niwrolegol neu wastraffu cyhyrau
  • anhawsder dysgu ddifrifol neu dwys
  • problem gyda’r dueg (spleen) er enghraifft afiechyd sickle cell, neu fod y dueg wedi ei dynnu
  • yn ddifrifol dros bwysau (BMI o 40 neu fwy)
  • gyda salwch iechyd meddwl difrifol