Egluro termau
Mae llawer o’r geiriau sydd yn cael eu defnyddio yn ystod yr argyfwng coronavirus yn newydd i ni. Yma rydym yn gobeithio eu hegluro mewn fordd syml. I bob un rydym hefyd wedi rhoi dolen i ganllawiau llawn y llywodraeth.
Cadw pellter cymdeithasol
Social distancing
Mae hyn yn rywbeth y dylem i gyd ei wneud, beth bynnag fo’n hoed neu’n hiechyd.
Y nod yw lleihau cyswllt gydag eraill gymaint â phosib.
- Arhoswch adref; gadewch y tŷ dim ond mae mae’n gwbl angenrheidiol.
- Os yn bosib, gweithiwch o adref.
- Ewch allan o’r tŷ ddim ond i siopa, os yn bosib unwaith yr wythnos ar y mwyaf.
- Cewch adael y tŷ unwaith y diwrnod i ymarfer corff, ond gyda pobl eraill o’ch cartref yn unig.
- Os oes raid i chi adael y ty, cadwch o leiaf 2 fedr oddi wrth bobl eraill.
Oni bai eich bod yn rhan o’r grŵp ‘cysgodi cymdeithasol’ (gweler isod), nid oes raid i’ch cyflogwr adael i chi beidio dod i’r gwaith. Peidiwch â’n ffonio i drafod hyn, oherwydd ni allwn gynnig unrhyw gyngor pellach.
Hunan ynysu
Self-isolation
Mae hyn yn rhywbeth dylai pobl gyda symptomau ei wneud tan eu bod wedi cael prawf, a tu hwnt i hynny os yw’r prawf yn bositif.
- Arhoswch yn eich tŷ drwy’r adeg. Cewch fynd allan i’r ardd os oes un gennych. Gofynnwch i rywun arall wneud eich siopa i chi.
- Ceisiwch osgoi eraill yn eich tŷ gymaint â phosib. Cadwch 2 fedr i ffwrdd o’ch gilydd. Os yn bosib, cysgwch mewn gwelyau ar wahân.
- Dylai pobl gyda prawf positif hunan ynysu am 10 diwrnod.
- Dylai pobl yn yr un ty neu’r ty estynedig hefyd hunan-ynysu am 10 diwrnod, o ddiwrnod cyntaf salwch y person arall.
- Efallai bydd y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu wedi cysylltu â chi a gofyn i chi hunan ynysu oherwydd bod achos positif o’r coronafeirws wedi dod i gysylltiad â chi
Os ydych angen nodyn i’ch cyflogwr gallwch gynhyrchu un yma.
Cliciwch yma i weld canllawiau llawn y llywodraeth.
Cysgodi cymdeithasol
Social shielding
Mae hyn i amddiffyn pobl sy’n fregus iawn oherwydd problemau iechyd difrifol. Maent yn cynnwys;
- Pobl sydd wedi cael trawsblaniad organ.
- Pobl gyda mathau penodol o gancr:
- pobl sydd wrthi’n cael cimootherapi neu radiotherapi ar gyfer cancr yr ysgyfaint
- pobl gyda chancr y gwaed neu fêr yr esgyrn fel liwcîmia, lymffoma, neu myeloma, yn unrhyw gam o’u triniaeth
- pobl sy’n cael imiwnotherapi neu’n parhau i gael triniaeth gwrthgyrff (antibody treatment) i gancr
- pobl sy’n cael mathau eraill o driniaeth a allai effeithio’r system imiwnedd, fel ‘protein kinase inhibitors’ neu ‘PARP inhibitors’
- pobl sydd wedi cael trawblaniad mêr yr esgyrn neu fôn-gell (stem cell) yn y 6 mis dwythaf, neu sy’n dal i gael triniaeth wrth-imiwnol (immunosupression)
- Pobl gyda phroblemau ysgyfaint difrifol, fel ffibrosis cystic, asthma difrifol, neu COPD difrifol
- Pobl gyda phroblemau metaboledd genedigol (inborn errors of metabolism) sydd yn cynyddu peryg heintiau (fel SCID, neu homozygous sickle cell).
- Pobl ar driniaeth wrth-imiwneg sy’n cynyddu perygl haint yn sylweddol.
- Menywod beichiog gyda phroblemau calon difrifol, genedigol neu beidio.
Os oes gennych unrhyw un o’r cyflyrau uchod, rydym yn eich cynghori’n gryf i osgoi cyswllt gydag eraill gymaint â phosib, am 12 wythnos. Mewn gair, dylech hunan-ynysu – peidiwch â gadael y tŷ.
- Arhoswch yn y tŷ. Cewch fynd i’r ardd os oes un gennych.
- Rhaid osgoi pobl gyda gwres neu beswch ar bob cyfrif.
- DGofynnwch i ffrindiau, teulu neu gymdogion i wneud eich siopa a nôl meddyginiaethau.
- Dim ond ymwelwyr cwbl hanfodol ddylai ddod i mewn i’r ty, fel gofalwyr neu weithwyr iechyd.
Os yw rhywun yn byw gyda chi does dim rhaid iddynt ddilyn canllawiau cysgodi cymdeithasol. Dylent cadw pellter cymdeithasol fel y nodir uchod.
Mae’r GIG am gysylltu gyda phawb sydd â problemau iechyd uchod cyn dydd Sul 29 Mawrth.
Golchi dwylo
Mae’n hanfodol eich bod yn golchi eich dwylo’n aml. Gwnewch am 20 eiliad gyda sebon.
Tagu
Tagwch i fewn i hances, yna ei roi yn y bin. Golchwch eich dwylo wedyn.