Mae llawer o wybodaeth ar gael am coronavirus. Gallai fod yn anodd cael hyd i wybodaeth benodol, gywir a dibynadwy. Yma rydym yn gobeithio cynnig y wybodaeth fwyaf defnyddiol sydd yn berthnasol i gleifion Coed y Glyn. Am gyngor llawn, cyfredol, cliciwch yma i fynd i dudalennau’r llywodraeth.

Trefnwch brawf cyn gynted a phosib os oes gennych;

  • wres uchel – mae hyn yn golygu bod eich brest neu’ch cefn yn teimlo’n boeth (neu os oes gennych thermometer, bod eich tymheredd yn uwch na 37.8°C)
  • peswch parhaus – mae hyn yn golygu tagu’n gyson am dros awr, neu tri neu fwy o blyciau tagu mewn 24 awr (os oes peswch gennych eisoes, gallai fod yn waeth na’r arfer)
  • colled neu newid i’ch synnwyr blas neu arogl

Y ffordd oraf o wneud hyn yw drwy’r wefan GIG. Gallwch hefyd ffonio GIG 111.

Peidiwch â dod i’r feddygfa, mynd i’r ysbyty na’r fferyllfa.

Does dim angen i chi gysylltu gyda’r feddygfa.

Os yw’ch symptomau’n ddifrifol, os ydych yn methu ymdopi, neu os yw eich salwch yn parhau am fwy na 7 diwrnod, ewch i wefan Gofal Iechyd Cymru i ddefnyddio’r gwasanaeth coronavirus yma. Os na allwch fynd ar-lein, ffoniwch GIG 111.

Os ydych yn wirioneddol wael ffoniwch 999.

Pa mor hir i aros adref

  • rhaid i chi aros adref ac osgoi cyswllt gyda eraill tan eich bod wedi cael prawf
  • os ydych yn cael prawf positif, dylech aros adref am 7 diwrnod
  • os ydych yn byw gyda rhywun gyda symptomau, arhoswch adref tan eu bod wedi cael prawf. Os ydynt yn cael prawf positif, arhoswch adref am 14 diwrnod o’r diwrnod cyntaf dechreuodd y person cyntaf yn y tŷ gael symptomau

Os ydych yn byw gyda rhywun sy’n 70 neu hŷn, gyda chyflwr iechyd hir-dymor, sy’n feichiog neu gyda system imiwnedd wan, ceisiwch gael rhywle arall iddynt aros am 14 diwrnod. Os oes rhaid i chi aros adref gyda’ch gilydd, ceisiwch gadw i ffwrdd o’ch gilydd gymaint â phosib.

Golchi dwylo

Mae’n hanfodol eich bod yn golchi eich dwylo’n aml. Gwnewch am 20 eiliad gyda sebon.

Tagu

Tagwch i fewn i hances, yna ei roi yn y bin. Golchwch eich dwylo wedyn.