Nodiadau salwch a llythyrau
Nodiadau salwch
Does dim angen i chi gael nodyn salwch gan eich meddyg os ydych yn hunan-ynysu. Mae’r llywodraeth wedi datgan bod rhaid i gyflogwyr dderbyn ‘nodyn hunan-ynysu’. Cliciwch yma i fynd i’r wefan sy’n eu paratoi. Ni fyddwn yn derbyn galwadau ynghylch cyflogwyr sy’n gwrthod derbyn y rhain – cyfeiriwch nhw i’r wefan hon iddynt gael cadarnhad o’n polisi. Os ydych yn teimlo na ddylech fynd i’r gwaith oherwydd cyflwr iechyd blaenorol, ac na allwch weithio adref, lle eich cyflogwr yw caniatáu hyn. Peidiwch â’n ffonio i ofyn am nodyn salwch.
Llythyrau i gyflogwyr
Gan fod ein gwasanaethau dan bwysau mawr ni fyddwn yn paratoi llythyrau o’r math hwn. Mae ein meddygon a’n staff gweinyddol yn brysur iawn gyda materion clinigol ac felly nid yw hyn yn ddefnydd effeithiol o’n hamser. Gadewch i’ch cyflogwyr wybod hyn – rydym yn erfyn arnynt i ddefnyddio synnwyr cyffredin wrth drafod cadw pellter cymdeithasol gyda’u gweithwyr.
Llythyrau i gwmnïau teithio
Nid yw hyn yn ddefnydd effeithiol o’n hamser, felly ni fyddwn yn cynnig hyn. Mae Coleg Brenhinol Meddygon Teulu (Royal College of General Practitioners – RCGP) yn ein cefnogi yn hyn. Cliciwch yma i ddarllen eu datganiad.
Golchi dwylo
Mae’n hanfodol eich bod yn golchi eich dwylo’n aml. Gwnewch am 20 eiliad gyda sebon.
Tagu
Tagwch i fewn i hances, yna ei roi yn y bin. Golchwch eich dwylo wedyn.