Gwaith arferol

Oherwydd yr argyfwng coronavirus, ni fyddwn yn gwneud rhai rhannau o’n gwaith arferol. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon pan fydd y sefyllfa’n newid.

Mae dau brif reswm dros ein penderfyniad:

  • Mae’r risg i’r claf o beidio gwneud y gwaith arferol hwn yn is na’r risg o ddal coronavirus wrth ddod i fewn i’r feddygfa.
  • Rydym eisisau lleihau’r risg y daw cleifion â haint i fewn i’r feddygfa gymaint â phosib. Mae hyn i amddiffyn cleifion eraill a’n staff.

Dyma restr o’r prif waith rydym wedi stopio’i wneud:

  • Brechiadau ffliw, gan gynnwys Fluenz (nid yw’r frech ffliw yn amddiffyn rhag coronavirus)
  • Adolygiadau clefyd siwgr, pwysau gwaed, COPD ac asthma
  • Gwirio iechyd ar gyfer HGV, PSV, morwyr, ayyb
  • Profion di-argyfwng fel ECG, Doppler, ‘lung function tests’
  • Atal-cenhedlu hir-dymor (coil a’r implant)

Rydym yn argymell yn gryf fod cleifion sydd angen pigiad fitamin B12 yn gohirio hyd nes fod yr argyfwng wedi cilio. Credwn y byddai dal coronavirus yn y feddygfa yn beryclach o lawer na’r gohiriad. Os ydych yn deall hyn ac eisiau parhau, bydd rhaid i chi siarad gyda meddyg.

Rydym yn parhau i frechu plant yn unôl â’r amserlen arferol. Mae’n bwysig iawn bod plant yn cael y rhain oherwydd mae’r afiechydon maent yn eu hatal yn gallu bod yn fwy peryg na coronavirus.

Golchi dwylo

Mae’n hanfodol eich bod yn golchi eich dwylo’n aml. Gwnewch am 20 eiliad gyda sebon.

Tagu

Tagwch i fewn i hances, yna ei roi yn y bin. Golchwch eich dwylo wedyn.