Pecynnau wrth gefn

Rydym wedi cael llawer o geisiadau am becynnau gwrthfiotig a steroid i gleifion sydd â phroblemau ysgyfaint. Gwyddom fod llawer o straeon ar y cyfryngau gymdeithasol ynghylch hyn.

Mae dwy brif broblem ysgyfaint:

COPD

Byddwn yn ystyried darparu pecyn i rai cleifion yn unig. Mae gennym ganllawiau penodol ynghylch cleifion addas. Os nad ydych wedi cael pecyn un yn y gorffennol nid ydym yn cynnig rhai fel rheol. Dylech siarad gyda meddyg os ydych yn peswch neu’n fwy byr o wynt.

Asthma

Nid ydym yn cynnig pecynnau i gleifion sydd ag asthma, oherwydd mae’n hanfodol eu bod yn siarad gyda meddyg os yw eu symptomau’n gwaethygu. Mae Asthma UK wedi gwneud datganiad ynghylch hyn;

We’ve been made aware of some posts on social media, saying that if you have a respiratory/lung disease your GP will issue a rescue pack of steroids and antibiotics. This is recommended for some people with COPD to be used as part of a personalised plan. However for people with asthma, we do NOT recommend these as standard.

If someone’s asthma is bad enough to consider steroids it is essential they are accessed by a healthcare professional. Even at this busy time for the NHS, getting early support for any problems with your lungs is critical to keep you well and out of hospital.

Golchi dwylo

Mae’n hanfodol eich bod yn golchi eich dwylo’n aml. Gwnewch am 20 eiliad gyda sebon.

Tagu

Tagwch i fewn i hances, yna ei roi yn y bin. Golchwch eich dwylo wedyn.