Presgripsiynau
Mae ein gwasanaethau presgripsiwn yn gweithredu fel arfer os ydych yn cael eich meddyginiaeth o’r feddygfa neu’r fferyllfa. Ond rydym wedi bod yn eithriadol o brysur gyda ceisiau am bresgripsiwn yn ddiweddar. Rydym yn erfyn arnoch i beidio pentyrru meddyginiaeth. Mae’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (Royal Pharmaceutical Society) wedi datgan bod paratoadau ar gyfer Brexit di-gytundeb yn golygu bod stoc ddigonol o feddyginiaeth ym Mhrydain, ac ni fydd yr argyfwng coronavirus yn effeithio ar y cyflenwad.
ARCHEBWCH Y MEDDIGYNIAETH RYDYCH EI ANGEN YN UNIG.
Amser paratoi
Yn sgil y galw mawr am feddyginiaethau, rydym yn ei chael yn anodd iawn paratoi presgripsiynau o fewn y 48 awr arferol. Gall fod oedi cyn cael rhai ceisiadau yn barod, yn enwedig meddyginiaethau arferol.
Ailadrodd presgripsiynau
Mae llawer o gleifion yn poeni am ddod i fewn i’r feddygfa i ofyn am ailadrodd presgripsiwn. Rydym felly wedi symud y blwch i’r lobi allanol tu allan i’r ystafell aros. Os ydych yn casglu eich presgripsiwn o fferyllfa, gallwch eu henwebu i ofyn am ailadrodd presgripsiwn ar eich rhan – gofynnwch iddynt am hyn. Os ydych wedi colli eich slip ailadrodd presgripsiwn, peidiwch â ffonio’r feddygfa – ni fyddwn yn derbyn ceisiadau dros y ffon fel arfer. Ysgrifennwch eich cais ar bapur a’i bostio i’r blwch ailadrodd presgripiswn. Yn ystod yr argyfwng, gallwn dderbyn ceisiadau presgripsiwn drwy’r wefan. Cliciwch yma i fynd i’n ffurflen ailadrodd presgripsiwn.
Fy Iechyd Arlein
Rydym yn annog cleifion sydd eisioes wedi cofrestru gyda Fy Iechyd Arlein i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i wneud cais am bresgripsiynau. Yn anffodus, nid ydym yn derbyn cleifion newydd ar hyd y o bryd, gan y byddai hynny’n golygu dod i fewn i’r feddygfa.
Golchi dwylo
Mae’n hanfodol eich bod yn golchi eich dwylo’n aml. Gwnewch am 20 eiliad gyda sebon.
Tagu
Tagwch i fewn i hances, yna ei roi yn y bin. Golchwch eich dwylo wedyn.