Ymweld a’r feddygfa
Er fod y canllawiau COVID yn cael eu ymlacio, gofynnwch yn garedig i chi barhau i beidio mynychu’r feddygfa heb drefnu yn gyntaf gyda meddyg neu aelod o’r staff dros y ffôn. Os oes angen dod i’r feddygfa ar gyfer rhesymau eraill (er enghraifft i nol meddyginiaethau neu ollwng sampl) gofynnwch i chi olchi eich dwylo gyda’r gel rydym yn ei ddarparu, cadw pellter o ddau fedr oddi wrth eraill, a ceisio fod yn yr adeilad am gyn lleied o amser a phosib. Os oes 6 berson yn y dderbynfa eisioes, diswyliwch tu allan os gwelwch yn dda. Byddwn hefyd yn gwerthfawrogi os ydych yn gwisgo mwgwd dros eich wyneb.
Apwyntiadau
Mae’r ystafell aros bellach ar gael i gleifion ddisgwyl am eu apwyntiad. Os gwelwch yn dda cadwch i’r canllawiau pellhâu cymdeithasol tra eich bod yn yr ystafell aros. Os oes wyth o bobl yn yr ystafell aros eisioes, gofynnwn i chi aros tua allan tan bod lle yno, neu i ddisgwyl yn eich car. Os yw rhywun wedi gofyn i chi aros yn eich car, os na hyn yw eich dewis, neu fod yr ystafell aros yn llawn, os gwelwch yn dda galwch y dderbynfa i adael i ni wybod eich bod wedi cyrraedd.