Coronavirus – cwestiynau cyffredin
Yn y cyfnod heriol yma rydym yn deall fod y newidiadau i’n gwasanaeth yn gallu achosi ansicrwydd a phryder. Mae’r atebion i nifer o gwestiynau cyffredin isod.
Os oes gennych gwestiwn am apwyntiadau nyrs, gwaith arferol, presgripsiynau, ayyb, anfonwch neges atom yma. Rydym yn brysur iawn felly ni allwn ymateb i bob cwestiwn, ond os oes digon o ddiddordeb fe gyhoeddwn ateb yma ac ar Facebook.
NI fyddwn yn ateb cwestiynau meddygol. Cysylltwch â’r feddygfa am hyn.
Mae ffurfleni cyswllt ein gwefan yn defnyddio ebost i gyfathrebu gwybodaeth. Cliciwch yma i ddarllen ein polisi ebost.
Cwestiynau cyffredin
Ydi eich amseroedd dosbarthu meddyginiaethau wedi newid?
Nac ydyn. Mae Coed y Glyn yn agored i gasglu meddyginiaethau o 8yb tan 6yh bob dydd. Mae Glan Menai ar agor i gasglu meddyginiaethau fel a ganlyn:
Dydd Llun a Dydd Mawrth: 9:30yb – 12:30yh a 3yh – 5yh
Dydd Mercher a Dydd Iau: 9:30yb -12:30yh
Dydd Gwener: 9:30yb – 12:30 yh a 2yh-4yh
Rydym wedi dechrau danfon meddyginiaethau i rai gleifion, ond nid i’n cleifion i gyd ar hyn o bryd. Peidiwch â chysylltu gyda ni i holi: os byddwn yn ehangu y gwasanaeth hwn, byddwn yn cysylltu gyda chleifion unigol i gynnig.
Pryd y gallaf ffonio i siarad gyda meddyg?
Mae ein llinellau ffon yn agor am 8yb. Ar ôl 12:30yh byddwn yn delio gydag argyfyngau yn unig. Cysylltwch mor fuan â phosib i ofyn am alwad. Mae hyn er mwyn i ni drefnu i weld y cleifion sydd angen eu gweld yn y feddygfa neu adref, trefnu gofal pellach os oes angen, a sicrhau bod modd cael presgrisiynau.
A ddylwn ddod i’r feddygfa?
Rydym am i gyn lleied o gleifion â phosib i ddod i’r feddygfa, er mwyn amddiffyn cleifion, ein staff, ac atal yr adeilad rhag cael ei heintio. Rydym yn parhau i weld cleifion pan fo’n hanfodol. Mae hyn yn cynnwys apwyntiadau nyrs ar gyfer profion gwaed a phigiadau hanfodol, brechiadau plant, ac apwyntiadau meddyg os oes angen yn dilyn triage ar y ffôn. Rydym hefyd yn gweld cleifion drwy ymgynghoriad fideo, sydd i’w weld yn gweithio’n dda. Peidiwch â dod i fewn i’r feddygfa i ofyn am alwad gan feddyg na chydag ymholiad – ffoniwch, os gwelwch yn dda.
Mae gennyf broblem iechyd ac wedi pellhau’n gymdeithasol ac aros adref. Ydw i angen nodyn?
Mae peth ddryswch wedi bod ynghylch canllawiau cysgodi cymdeithasol am 12 wythnos. Mae hyn ar gyfer cleifion sydd gyda problemau iechyd penodol sy’n eu gwneud yn fregus iawn. Mae’r NHS yn gyrru llythyron i’r cleifion yma gyda gwybodaeth. Mae’r llythyrau yn ymwneud â rhesymau meddygol, nid cyflogaeth.
Mae’r rhestr lawn o gyflyrau a mwy o fanylion yn yr adran ‘egluro termau‘. Mae’r cyflyrau’n cynnwys COPD ac asthma difrifol yn unig, ac nid ydynt yn cynnwys clefyd siwgr, pwysau gwaed uchel, problemau gyda’r galon, arthritis ayyb.
Dylai cleifion gyda phroblemau meddygol eraill ymarfer pellhau cymdeithasol (fel y dylai pawb). O ran gwaith mae hyn yn golygu ‘gweithio adref os yn bosib’. Os nad ydych yn gallu gweithio adref, nid oes rheidrwydd ar eich cyflogwr i’ch caniatáu i beidio dod i’r gwaith. Os ydynt yn caniatáu hyn, mae’n gytundeb ar y cyd rhyngoch chi, a does dim angen i chi gael nodyn.
Ydy’r feddygfa yn danfon meddyginiaethau i bobl sydd angen pellhau’n gymdeithasol a hunan-ynysu?
Rydym yn gweithio gyda mudiadau lleol i drefnu i ddanfon meddyginiaethau, sy’n golygu na fydd rhaid i unrhyw un adael eu cartref i ddod i’r feddygfa. Rydym yn gobeithio bydd hyn yn weithredol yn fuan, a byddwn yn rhannu gwybodaeth bellach yma. Mae gwahanol fudiadau ac elusennau eisoes wedi rhannu pamffledi yn cynnig cymorth gyda chasglu meddyginiaethau a siopa ayyb. Mae hynny’n ddewis da nes bod ein cynlluniau’n derfynol.
Dwi’n poeni am ddod â thaflen ailadrodd presgripsiwn i’r feddygfa. Oes ffordd arall o drefnu hyn?
Rydym wedi symud y blwch slipiau ailadrodd i’r lobi allanol tu allan i’r ystafell aros, felly does dim raid i chi ddod i mewn i’r feddygfa. Os ydych yn casglu eich presgripsiwn o fferyllfa gallwch eu henwebu i ofyn am ailadrodd presgripsiwn ar eich rhan – holwch nhw am hyn. Os ydych wedi colli eich slip ailadrodd presgripsiwn peidiwch â ffonio’r feddygfa: ni fyddwn yn derbyn ceisiadau dros y ffon fel arfer. Ysgrifennwch eich cais ar bapur a’i roi yn y blwch slipiau ailadrodd presgripisynau. Yn ystod yr argyfwng, rydym wedi penderfynu derbyn ceisiadau presgripsiwn drwy’r wefan.
Rwyf wedi clywed bod raid i bobl gydag asthma gael pecyn steroids i gadw adref. Ydi hyn yn wir?
Nid ydym yn cynnig paciau i gleifion gyda asthma, oherwydd mae’n hanfodol eu bod yn siarad gyda meddyg os yw eu symptomau’n dirywio. Mae Asthma UK wedi gwneud datganiad yn cadarnhau hyn.
Ydy brechiadau plant wedi eu gohirio?
NAC YDYN. Mae’n bwysig iawn ein bod yn parhau i roi brechiadau plant fel arfer. Maent yn amddiffyn plant yn erbyn afiechydon allai fod lawer gwaeth na coronavirus.
Ydych yn dal i roi pigiadau B12?
Rydym yn awgrymu’n gryf fod cleifion sydd angen pigiad B12 yn gohirio hyd nes fod yr argyfwng wedi cilio. Credwn y byddai dal coronavirus yn y feddygfa yn beryclach o lawer nag oedi. Os ydych yn deall hyn a dal eisiau parhau, bydd rhaid i chi siarad gyda meddyg.
Mae gen i gyflwr meddygol eisioes – sut mae hyn yn effeithio fy ngwaith?
Ar hyn o bryd, dylai pobl gyda rhai cyflyrau meddygol weithredu camau pellhau cymdeithasol. Prif nodwedd hyn yw osgoi grwpiau mawr o bobl. Os ydych yn rhyngweithio gyda llawer o bobl yn eich gwaith, trafodwch y posibilrwydd o newid dyletswyddau gyda’ch cyflogwr, neu’r gallu i weithio o adref. Wrth gwrs nid yw hyn yn bosib gyda phob swydd, felly bydd yn benderfyniad i’ch cyflogwr os ydych am beidio mynd i’r gwaith. Ar hyn o bryd nid oes rheidrwydd ar gyflogwyr i ganiatáu hyn. Peidiwch â ffonio’r feddygfa i drafod hyd gyda meddyg – dyma’r unig wybodaeth y gallwn ei rhoi i chi. Mae rhai cleifion yn eithriadol o fregus oherwydd rhai cyflyrau meddygol difrifol. Cliciwch yma i ddarllen mwy.
A fyddwch yn rhoi llythyrau i gyflogwyr yn profi bod gen i gyflwr meddygol?
Gan fod ein gwasanaethau dan bwysau eithriadol, ni fyddwn yn paratoi llythyrau fel hyn. Mae ein meddygon â’n staff gweinyddol yn brysur iawn gyda materion clinigol ac ni fyddai hyn yn ddefnydd effeithiol o’n hamser. Gadewch i’ch cyflogwr wybod hyn: rydym yn erfyn arnynt i ddefnyddio synnwyr cyffredin wrth drafod cadw pellter cymdeithasol gyda’u gweithwyr.
Mae fy nghyflogwr eisiau nodyn salwch am fy nghyfnod hunan ynysu. Sut alla i gael un?
Mae teclyn arlein i greu nodyn hunan ynysu y gallwch ei argraffu. Peidiwch â chysylltu gyda’r feddygfa am nodiadau salwch sy’n ymwneud â’r argyfwng coronavirus.
A fyddwch yn rhoi llythyrau i gefnogi cais yswiriant teithio?
Nid yw hyn yn ddefnydd effeithiol o’n hamser, felly nid ydym yn cynnig hyn. Mae Coleg Brenhinol Meddygon Teulu (Royal College of General Practitioners – RCGP) yn ein cefnogi yn hyn o beth. Mae eu datganiad yma.
Golchi dwylo
Mae’n hanfodol eich bod yn golchi eich dwylo’n aml. Gwnewch am 20 eiliad gyda sebon.
Tagu
Tagwch i fewn i hances, yna ei roi yn y bin. Golchwch eich dwylo wedyn.